Ar ôl cael eu derbyn, caiff yr holl apeliadau eu hystyried i ddechrau gan aelodau staff Gwasanaethau Academaidd sydd â phrofiad ac wedi derbyn hyfforddiant priodol (sef “y Pwyllgor Hidlo”). Gallant benderfynu:
- Ysgrifennu atoch er mwyn gofyn am ragor o wybodaeth;
- Gwrthod eich apêl neu
- Gymeradwyo’ch apêl a rhoi canlyniad academaidd priodol ichi neu
- Gyfeirio’r mater i Fwrdd Apeliadau Academaidd.
Byddwch yn derbyn e-bost a fydd yn eich hysbysu o ganlyniad eich apêl ac o’ch hawl i gyflwyno adolygiad terfynol os byddwn yn anfodlon â’r canlyniad.
Sylwer yn sgîl y sefyllfa bresennol o ran Covid 19, mae’n debygol y bydd eich apêl yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Hidlo ac nid gan Fwrdd Apeliadau Academaidd.