Ydy’ch amgylchiadau esgusodol yn debyg i unrhyw un o’r amgylchiadau penodol yn y rhestr yn adran 2.6 o’r Weithdrefn Apeliadau?
YDYNT Mae angen ichi gyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth i ddangos bod: (1) Amgylchiadau esgusodol gennych (gweler y diweddariad ar y cwestiynau cyffredin yn sgil Covid 19 sy’n trafod amgylchiadau esgusodol, er mwyn dod o hyd i wybodaeth am yr amgylchiadau y bydd y Brifysgol yn eu derbyn fel amgylchiadau esgusodol).
(2) Y dyddiad neu’r cyfnod amser y digwyddodd yr amgylchiadau esgusodol.
(3) Sut cafodd yr amgylchiadau esgusodol effaith niweidiol (h.y. wael) ar arholiad neu waith cwrs penodol y gwnaethoch ei sefyll/gyflwyno/golli. Hefyd dylech esbonio pa arholiadau/gwaith cwrs yr effeithiwyd arno/arnynt a dyddiad yr asesiadau hyn. |
NAC YDYNT Mae angen ichi gyflwyno’r un wybodaeth a thystiolaeth a restrir yn y blwch ar y chwith (yn 1-3), a
(4) HEFYD bydd angen ichi gyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth i ddangos, ar adeg eich asesiad(au) yr effeithiwyd arno/arnynt:
(a) Eich bod wedi methu penderfynu a oeddech yn ddigon iach i ymgymryd â’r asesiad(au); AC/NEU
(b) Bod gennych reswm da dros beidio â hysbysu’ch Coleg ar yr adeg berthnasol (gweler Adran 2.4.6 o’r Weithdrefn Apeliadau am ragor o wybodaeth am hyn). |
Enghreifftiau o Dystiolaeth er mwyn cefnogi Apeliadau ar sail amgylchiadau esgusodol:
Fel arfer bydd angen dogfennaeth gyflawn sy’n cyfiawnhau amgylchiadau esgusodol neu geisiadau er mwyn cefnogi’r rheswm dros apelio (er enghraifft: tystysgrif feddygol/iechyd, tystysgrif marwolaeth, llythyr cefnogol gan wasanaeth cymorth yn y Brifysgol).
Er hynny, mae’r Brifysgol yn cydnabod y gallai fod yn anodd i fyfyrwyr gael gafael ar dystiolaeth yn y sefyllfa bresennol, gan sylwi ar y pwysau sydd ar y gwasanaethau iechyd ac ar wasanaethau eraill, a bydd yn gwneud pob ymdrech i ystyried ceisiadau â chydymdeimlad.
Enghreifftiau o dystiolaeth:
- Tystysgrif neu lythyr gan feddyg teulu/arbenigwr meddygol (sy’n cynnwys dyddiad yr asesiad meddygol perthnasol)
- Llythyr gan Wasanaeth Cymorth yn y Brifysgol (h.y. y Gwasanaeth Lles neu’r Swyddfa Anabledd)
- Llythyr cefnogol/esboniad gan drydydd parti megis perthynas/cyfaill agos a oedd yn cysylltu â chi yn ystod yr adeg berthnasol ac sy’n gallu rhannu eu sylwadau ar yr effaith y cafodd eich amgylchiadau arnoch. Gallai’r rhain gynnwys, er enghraifft, sylwadau ar eich gallu i wneud penderfyniadau rhesymol, eich gallu i ganolbwyntio ar eich astudiaethau ac i gyfathrebu â’r Brifysgol a/neu bobl eraill ynghylch eich problemau yn ystod y cyfnod hwn. (gan sylwi na fydd tystiolaeth o’r fath mor gymhellol â thystiolaeth feddygol fel arfer).