Mae’r daflen hon yn rhoi atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch Gweithdrefn Apeliadau Academaidd y Brifysgol. Mae’r weithdrefn lawn ar gael gan y Gwasanaethau Academaidd neu fe’i ceir ar-lein yn:
https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/apeliadau-academaidd/
Yn ystod y cyfnod presennol bydd y Brifysgol yn gweithredu’r Weithdrefn Apeliadau Academaidd yn hyblyg, gan gydnabod y gallai fod anawsterau gan fyfyrwyr wrth gyflwyno ceisiadau amgylchiadau esgusodol cyn cyfarfodydd y Byrddau Arholi.