Darperir y data dienw i ddarlithwyr a chydlynwyr modiwlau mewn fformat pdf, gan gynnwys data rhifiadol a'r sylwadau testun rhydd. Bydd tîm y rhaglen yn gwneud eu gorau i fynd i'r afael â'r materion a godir, nodi meysydd i'w gwella a chydnabod meysydd lle ceir arfer da.
Mae'r data dienw'n cael ei ddarparu hefyd i Adnoddau Dynol fel rhan o'r broses Adolygiad Datblygiad Proffesiynol (PDR) a dyrchafiadau ar gyfer staff academaidd.
Mae canlyniadau adborth ar fodiwlau'n cael eu darparu i'r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd hefyd i'w cynnwys yn y broses adolygu rhaglenni. Unwaith eto, mae'r data hwn ar ffurf ddienw.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau gwe am adborth ar fodiwlau:
Myfyrwyr: https://myuni.swansea.ac.uk/student-voice/module-feedback/