Mae’r Brifysgol am gefnogi myfyrwyr mewn amgylchiadau anodd felly peidiwch â theimlo’n annifyr o ran datgelu eich amgylchiadau. Bydd yr holl staff yn y Brifysgol yn ymdrin â’ch rhesymau yn gyfrinachol ac ni fyddant yn rhannu gwybodaeth heb eich caniatâd. Efallai y bydd modd i’ch Mentor Academaidd eich helpu chi, neu efallai y bydd yn eich cyfeirio at rywun a allai helpu gyda’ch amgylchiadau penodol, megis y Ganolfan Arian@BywydCampws neu Lles@BywydCampws.