Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gallai ystod eang o anawsterau/amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr, gan gynnwys anawsterau’n ymwneud â phandemig COVID-19 Coronafeirws, a allai olygu na fyddant yn gallu paratoi nac ymgymryd ag asesiadau yn y pen draw. Lluniwyd y canllaw hwn i’ch helpu i ddeall yr hyn y dylech ei wneud os teimlwch fod gennych anawsterau personol neu amgylchiadau esgusodol y credwch eu bod yn effeithio ar eich astudiaethau.
Yn ystod y cyfnod presennol, bydd y Brifysgol yn rhoi ei Pholisi Amgylchiadau Esgusodol ar waith mewn modd hyblyg er mwyn cefnogi myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd wrth baratoi ar gyfer asesiadau neu wrth ymgymryd â hwy. Os cewch broblemau wrth geisio bodloni dyddiadau cau neu wrth baratoi ar gyfer aseiniadau neu wrth eu cwblhau, cysylltwch â’ch Ysgol/Coleg i ofyn am ffurflen gais Amgylchiadau Esgusodol yr Ysgol/Coleg. Os yw’ch Ysgol/Coleg yn cefnogi’ch cais, y canlyniad tebygol yw y cynigir estyniad ichi neu’r opsiwn i ohirio’ch asesiad.
Diffinnir gohiriad asesu fel gohirio’r asesiad tan y cyfnod asesu nesaf; fel rheol caiff asesiad mis Mai/mis Mehefin ei ohirio tan gyfnod asesu mis Awst.