Os nad ydych yn gallu gweld un neu fwy o’r modiwlau yn eich rhestr ar ôl i chi fewngofnodi i Blackboard, gall hyn fod am nifer o resymau:
a) Mae’n bosib na fydd rhai modiwlau’n ymddangos ar eich rhestr hyd nes bod y Cyfarwyddwyr wedi gorffen paratoi eu safleoedd a’u bod wedi gosod statws y modiwlau hyn fel “ar gael”. Serch hynny, mae hefyd yn bosib bod y tiwtor dan sylw wedi anghofio gosod statws y modiwlau hyn fel “ar gael”, felly cysylltwch â’r tiwtor dan sylw i gadarnhau. ;Mae modiwlau wedi’u gosod yn awtomatig i beidio â bod ar gael tan yr wythnos addysgu gyntaf.
b) Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, yn enwedig os nad yw’r broses gofrestru ar gyfer y modiwl wedi’i chwblhau’n llawn neu os oes newidiadau yn y modiwlau yr ydych wedi’u dewis, mae’n bosib y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i’r system ddiweddaru’r wybodaeth. ;Fel rheol, os yw’r modiwl yn dangos i fyny ar eich cyfrif mewnrwyd, dylent hefyd ymddangos ar eich cyfrif Blackboard y diwrnod olynol.
Os nad yw unrhyw un o’r uchod yn debygol, cysylltwch â ni