Mae’r llyfrgell yn gweithredu gwasanaeth o’r enw DIGEX i sganio dogfennau i chi sydd wedi’u clirio dan y drwydded CLA (am ragor o wybodaeth ewch i’w tudalen hawlfraint yma).
Bydd y Tîm Cyflenwi Dogfennau’n llwytho’r sganiau i’r ardal Ffeiliau Cars ar gyfer eich modiwl yn System Gynnwys Blackboard ac y rhoi gwybod i chi drwy e-bost. Bydd angen i chi yna osod cyswllt i’r cynnwys ble bynnag y mae ei angen arnoch yn safle eich modiwl/cwrs fel a ganlyn:-
Ewch i’ch safle modiwl/cwrs yn Blackboard yn y modd arferol
; Yn gyntaf dewiswch o’r ardal ddewislen ble y mae angen i chi leoli eich cyswllt a defnyddiwch y Ddewislen Adeiladu Cynnwys i ddewis "Item"
;
Bydd hyn yn agor y ffurflen ychwanegu cynnwys gyfarwydd - Yn Adran 1 ychwanegwch deitl a disgrifiad dewisol
Nesaf, sgroliwch i lawr i Adran 2 a chliciwch y botwm "Browse Content Collection"
;
Bydd hyn yn agor y Ffeiliau Cwrs ar gyfer eich safle - Edrychwch am ffolder o’r enw Digex Scans a chliciwch ar y ddolen gyswllt i’w hagor -;
Ticiwch wrth ochr yr eitem yr hoffech gysylltu ati a chliciwch ar gyflwyno
;
Ar ôl cyflwyno mae’n bosib y byddwch yn derbyn neges yn esbonio eich bod y n rhoi hawliau darllen i ddefnyddwyr ar y cwrs - cliciwch OK
Bydd hyn yn mynd â chi yn ôl i’r ffurflen ychwanegu eitem lle gallwch osod opsiynau argaeledd ac olrhain yn ôl yr arfer cyn i chi ddewis Submit
Ar ôl cyflwyno bydd y ddolen gyswllt yn ymddangos fel dolen gyswllt arferol at gynnwys i fyfyrwyr
NODIADAU
Gallwch greu mwy nag un cyswllt mewn gwahanol ardaloedd o safle cwrs ond dylid dim ond defnyddio Sganiau yn y safle cwrs y mae gennych gliriad ar ei gyfer. Rhaid i chi adnewyddu eich ceisiadau sganio bob blwyddyn neu bydd y cynnwys yn cael ei dynnu oddi ar ardal ffeiliau’r cwrs a fydd yn golygu na fydd y cysylltiadau’n gweithio;
Ychwanegu Sganiau Digex at Gyrsiau
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 16:25
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn