Byddwn yn ychwanegu canllawiau newydd ar gyfer defnyddio Blackboard Mobile Learn wrth i ni ddod o hyd iddynt - os oes canllaw gyda chi yr ydych yn credu byddai’n ddefnyddiol, e-bostiwch blackboard@abertawe.ac.uk fel y gallwn ystyried ei ddefnyddio yma.
CREU RHESTRAU WEDI’U TEILWRA O GYRSIAU A SEFYDLIADAU
Yn ôl ei ragosodiad, mae’r app Blackboard Learn yn dangos pob cwrs, neu sefydliad, yr ydych wedi’i gofrestru ar ei gyfer. Mae hyn yn golygu bod modiwlau’r flwyddyn flaenorol yn ymddangos y gyntaf ar y rhestr ac nid yw hyn yn gyfleus iawn ar gyfer defnydd bob dydd
Gallwch nawr olygu neu aildrefnu eich rhestr fel eich bod dim ond yn gweld yr hyn yr ydych am ei weld ac yn y drefn sy’n well gennych. Mae’r cyfarwyddiadau sydd wedi’u dangos isod ar gyfer Android ond bydd camau tebyg yn gymwys ar gyfer iOS (mae’n bosib na fyddant yn gweithio yn yr app BlackBerry)
(Nid oes fersiwn Gymraeg o’r App felly mae’r delweddau yn Saesneg er y bydd cynnwys a theitlau ar gyfer unrhyw fodiwlau Cymraeg yn ymddangos yn Gymraeg)
Yn gyntaf, cliciwch ar y botwm golygu uwchben y rhestr
Wrth ymyl pob modiwl ceir rheolyddion golygu
(gweler y ddelwedd ar y dde) sy’n caniatáu i chi guddio modiwlau o’r brif restr, newid lliw’r cyswllt a’u llusgo i fyny ac i lawr y rhestr. Ar ôl i chi orffen cliciwch ar frig y dudalen i gadw ac i ddychwelyd i’r rhestr a fydd bellach wedi’i newid i’ch dewisiadau. Hyd yn oed os ydych yn dewis cuddio rhywbeth gallwch fynd yn ôl i’r sgrin olygu hon yn ddiweddarach a defnyddio’r un rheolydd i’w ddatguddio.
Canllawiau ar gyfer defnyddio Apps Symudol Blackboard
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:03
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn