Caiff addysgwyr addasu gwedd y Ganolfan Graddau trwy guddio colofnau er mwyn canolbwyntio ar ddata penodol a lleihau sgrolio. Nid yw colofnau sydd wedi'u cuddio'n cael eu dileu o'r Ganolfan Graddau, ac mae modd eu dangos eto ar unrhyw adeg.
Bydd angen i chi fod yn y Ganolfan Graddau Lawn. Dewiswch Canolfan Graddau, ac yna Canolfan Graddau Lawn o'r Panel Rheoli.
Cliciwch ar y sieffrynau wrth ochr y golofn yr ydych yn dymuno ei chuddio, a dewis Cuddio Colofn.
Bellach, mae'r golofn wedi'i chuddio.
Cewch adfer colofn gudd o'r dudalen Trefnu Colofnau. Mae'r dudalen Trefnu Colofnau'n rheoli sut mae gweddau gwahanol y Ganolfan Graddau'n cael eu dangos. Cewch gyrchu hon o'r botwm Rheoli.
Ticiwch bob colofn yr ydych am ei dangos - bydd y colofnau cudd yn ymddangos mewn llwyd. Cliciwch ar y gwymplen dangos/cuddio colofn i ddangos y colofnau perthnasol.
Pan rydych yn barod, cliciwch ar Cyflwyno.
Bydd neges llwyddo'n ymddangos.
Bellach, bydd y golofn yn weladwy yn y Ganolfan Graddau.
Addasu'r Wedd Canolfan Graddau
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:35
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn