Mae Hanes Graddio'n dangos tabl sy'n nodi pob newid gradd yn y Ganolfan Graddau hyd yma.
O'r Panel Rheoli, cliciwch ar Canolfan Graddau a dewis Canolfan Graddau Lawn.
Cliciwch ar y tab Adroddiadau a dewis Gweld Hanes Graddio.
Cliciwch ar Lawrlwytho.
Mae'r sgrin nesaf yn caniatáu i chi osod dewisiadau'r lawrlwytho.
Gosodwch fath o amffinydd i bennu fformat y ffeil sy'n cael ei lawrlwytho.
O ddefnyddio atalnod, cewch ffeil testun gyda'r estyniad .CSV.
O ddefnyddio tab, cewch ffeil testun gyda'r estyniad .XLS.
Bydd y ddau fath o ffeil yn agor yn Microsoft Excel.
Cewch gynnwys sylwadau hefyd.
Pan fyddwch yn barod, cliciwch ar Cyflwyno.
Cliciwch ar y botwm Lawrlwytho i lawrlwytho'r hanes graddio.
Dewiswch Cadw'r Ffeil. Yna, cedwir yr hanes graddio mewn ffeil ar eich gyriant lleol. Cewch agor y ffeil ym Microsoft Excel.
Gweld a Lawrlwytho Hanes Graddio
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:37
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn