I wirio bod eich aseiniad yn ymddangos yn y system, cliciwch ar y botwm "Aseiniadau" yn y fwydlen. Wedyn, o'r Blwch Derbyn, dewiswch y botwm glas "Gweld". Bydd hyn yn agor eich aseiniad mewn ffenest newydd y "Dangosydd Dogfennau".
Os ydych wedi bod trwy'r broses gyflwyno, yn unol â'r cyfarwyddyd yn yr adran "Sut allaf brofi fy mod wedi cyflwyno?", dylech fod wedi cadw nodyn o'r rhif a ymddangosodd ar y dderbynneb sy'n ymddangos fel rhan o'r broses. Bydd raid, yn ddi-eithriad, i chi fod â'r rhif hwn yn eich meddiant os oes angen cyfeirio'ch achos i Turnitin i chwilio am eich gwaith.