O fewn y modiwl, cliciwch ar y ddolen gyswllt "Users and Groups" o fewn y Panel Rheoli:
Dewiswch "Defnyddwyr" o’r rhestr o opsiynau:
O’r dudalen hon, cliciwch ar yr opsiwn "Enrol User" a dewiswch "Find User to enrol":
Mae’r sgrin ganlynol yn caniatáu i chi ddewis eich defnyddwyr:
1) Os ydych yn gwybod enw defnyddiwr y cyfarwyddwr rhowch e i mewn. ;Fel arall, cliciwch ar y botwm pori a chwiliwch am yr enw.
2) Dewiswch y rôl yr hoffech ei dyrannu (e.e. myfyriwr, cyfarwyddwr, arsylwr ayyb)
3) Mae gallu cofrestru yn caniatáu i chi benderfynu p’un ai y bydd gan y defnyddiwr newydd hawl i ymrestru eraill ar y cwrs neu beidio.
Cliciwch ar submit.
Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau wrth geisio ymrestru aelod o staff cysylltwch ag aelod o’r Tîm ADAA
Sylwer os hoffech ychwanegu aelod staff nad oes ganddo/ganddi gyfrif blackboard, yna bydd angen i chi gysylltu â’r Tîm ADAA; gan nodi’r enw defnyddiwr, cyfeiriad e-bost yr aelod staff a Chodau/Rhif Adnabod y Modiwl ar gyfer unrhyw fodiwlau y mae angen iddynt gael mynediad atynt
Tags: additional instructor, blackboard