Caiff dogfennau fel arfer eu postio i gyrsiau Blackboard mewn fformat y dylai eich bod yn gallu ei agor a’i ddarllen neu, fan leiaf, ei lawrlwyrtho.
Os nad ydych yn gallu agor dogfen yn uniongyrchol, neu ei hargraffu o fewn eich porwr, ceisiwch lawrlwytho’r ddogfen i’ch cyfrifiadur lleol a’i hagor yn y rhaglen briodol, e.e. Word, PowerPoint, Excel. I wneud hyn, de-gliciwch y llygoden ar y ddolen gyswllt i’r ddogfen, a dewiswch "Save Target As / Save Link As" (Bydd y geiriad yn amrywio yn dibynnu ar eich porwr, a chadwch y ffeil i’ch peiriant.
Ar gyfer rhai dogfennau mae’n bosib y bydd angen i chi lawrlwytho ategyn (‘plugin’) er mwyn eu darllen. e.e. gellir darllen ffeiliau Adobe PDF gan ddefnyddio’r ategyn Adobe Reader am ddim.
Os yw’r ffeil mewn fformat nad ydych yn gallu ei agor, cysylltwch â’r staff darlithio sydd wedi llwytho’r ddogfen i Blackboard.
Dydw i ddim yn gallu agor/cadw/argraffu ffeil/dogfen
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 12:49
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn