Os ydych yn profi problemau llwytho wrth ddefnyddio Turnitin ceir ychydig o bethau y dylech eu gwirio
- Ydych chi’n defnyddio fformat ffeil cydnabyddedig? - mae’r rhain wedi’u rhestru ar y dudalen llwytho ac mae Turnitin yn derbyn ffeiliau yn y fformat Microsoft DOCX a gynhyrchir gan Office 2010.
- Ydy’r ffeil yn fawr iawn? - Ni fydd Turnitin fel arfer yn derbyn ffeiliau dogfen sy’n llawer fwy nag 20MB ac mae’n hawdd i’ch ffeil fod yn fwy na hyn os ydyw’n cynnwys llawer o ddelweddau - yr ateb yw cael gwared ar ddelweddau mawr cyn cyflwyno
- Oes enw hir iawn gyda’ch ffeil neu ydyw’n cynnwys bylchau neu gymeriadau nas caniateir? - byddwn ni’n argymell cadw enwau ffeiliau’n syml a defnyddio cymeriadau alffaniwmerig yn unig - e.e. yn lle fy aseiniad 2008 ar gyfer modiwl ab-123.docx defnyddiwch rywbeth syml fel ab123_assignment.docx
- Os nad ydych yn gwybod sut i ddatrys problem ar gyfer ffeil benodol ffoniwch y ddesg cymorth TG a fydd yn gallu cysylltu â chymorth Blackboard os oes angen.