Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i gyhoeddi ffeiliau Sip, gan gynnwys pecynnau HTML a grëir gan ddefnyddio offerynnau megis Wimba Create a Course Genie.
Mae’r canllaw hwn yn cymryd eich bod eisoes wedi creu eich ffeil sip.
Creu ffolder ar gyfer eich cynnwys ffeil sip i gyd (dewisol, ond wedi’i argymell)
Yn eich modiwl, ewch i ddewislen y Panel Rheoli. Cliciwch ar god ID y modiwl yn uniongyrchol o dan Content Collection item 1 yn y sgrinlun isod. (Mae eitem 2 yn y sgrinlun yn cyfeirio at yr holl gynnwys yr ydych wedi’i lwytho yn eich modiwlau i gyd).
Defnyddiwch y botwm Create Folder i greu ffolder, rhowch enw iddo a chliciwch ar Submit:
Ychwanegu Ffeil Sip
O fewn eich modiwl, ewch i ddewislen y Panel Rheoli a dewiswch Content Collection. ;Cliciwch ar ID y modiwl fel yn ôl y cyfarwyddiadau uchod. Os ydych eisoes wedi creu ffolder, cliciwch ar y ddolen gyswllt i’w agor). Cliciwch ar y botwm Upload a dewiswch y pecyn Lawrlwytho o’r gwymplen:
Cliciwch ar Browse i chwilio am y ffeil sip ar eich cyfrifiadur, yna cliciwch ar Submit:
Bydd hyn yna’n llwytho eich sip i Blackboard ac yn ei ddadlwytho i mewn i ffolder ei hun.
Cysylltu i’ch ffeil Sip yn eich ardal gynnwys
Fel arfer bydd gan ffeiliau pecyn megis ffeiliau sip Course Genie/Wimba Create ffeil 'index.html' y tu fewn iddynt. Dyma’r ffeil y byddwch yn cysylltu ati.
Ewch i’r ardal gynnwys lle hoffech i’ch cyswllt ymddangos. Os yw’r modd golygu wedi’i ddiffodd, trowch e ymlaen drwy glicio ar y modd golygu. Bydd hyn yn dangos ychydig o fotymau ychwanegol, gan gynnwys y gallu i greu eitem:
Cliciwch ar Build Content a dewiswch Create Item:
Rhowch deitl i’ch eitem a disgrifiad bras ohono. Yn yr ail adran, sgroliwch i lawr a chliciwch ar y botwm Browse for Content Collection;
Bydd ffenestr yn agor a fydd yn caniatáu i chi lywio’r ffeiliau yn y casgliad cynnwys. Ticiwch y ffeil 'index.html' o’r rhestr y tu fewn i’r ffolder ar gyfer y pecyn sydd ei angen arnoch a chliciwch ar Submit.
Mae tri opsiwn gennych yn awr dan File Action:
Dewiswch ‘Give users Read access to all files and folders in the folder’.; Bydd hyn yn caniatáu i’r defnyddiwr lywio i’r tudalennau eraill o fewn eich ffeil Course Genie/Wimba Create.
I sicrhau bod yr eitem ar gael i’ch myfyrwyr, rhaid gosod yr opsiwn ‘Permit Users to View the Content Item’ i ‘yes’. Fel arall bydd yr eitem dim ond yn weladwy yn y modd golygu, sydd ddim ar gael i fyfyrwyr. Cliciwch ar Submit ar ôl i chi orffen:
Ychwanegu ffeiliau Sip, ffeiliau Wimba Create/ ffeiliau Course Genie at eich Modiwl Blackboard
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 16:35
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn