Casgliad wedi’i drefnu o ddeunydd cwrs wedi’i gyflwyno â thabl cynnwys yw modiwl dysgu. Gallwch ychwanegu cynnwys a gweithgareddau i fodiwlau dysgu a’u rheoli fel y byddech yn rheoli eitemau mewn ardal gynnwys. Bydd yr erthygl hon yn dangos i chi sut i greu modiwl dysgu newydd, sut i agor modiwl presennol a sut i ychwanegu cynnwys.
I greu modiwl dysgu newydd:
O fewn eich modiwl, cliciwch ar Build Content a dewiswch Learning Module:
Rhowch enw a disgrifiad i’ch Modiwl Dysgu:
Mae Adran 2 yn caniatáu i chi ddewis os ydych am orfodi cyrchiad dilyniannol ar gyfer y modiwl dysgu bydd hyn yn gorfodi’r defnyddiwr i fynd drwy’r modiwl dysgu mewn trefn. Mae hefyd yn rhoi’r dewis i chi os ydych am agor y modiwl dysgu mewn ffenestr newydd:
Mae Adran 3 yn caniatáu i chi sicrhau bod eich modiwl dysgu ar gael, ac i ddewis os ydych am osod terfyn amser arno:
Mae Adran 4 yn caniatáu i chi ddangos tabl cynnwys, ac os hoffech wneud hynny, i ddewis ym mha fformat yr hoffech ei arddangos:
Pan rydych yn hapus, ciciwch ar Submit.
I agor modiwl dysgu sy’n bodoli:
1) Gwnewch yn siŵr eich bod yn yr adran gynnwys berthnasol a chliciwch ar y modiwl dysgu i’w agor
2) Gellir ychwanegu sawl math o gynnwys i’r modiwl dysgu megis URLs, ffeiliau dogfen, a delweddau. Yn wir, gallwch ychwanegu unrhyw gynnwys y mae modd ei ychwanegu ar Blackboard ei hun at fodiwl dysgu.
3) Mae’r math o gynnwys yr ydych yn ei ddewis yn penderfynu’r opsiynau sydd gennych o ran ei ychwanegu, yn ogystal â sut y bydd myfyrwyr yn ei weld.
Ychwanegu ffeil:
Gall defnyddwyr atodi ffeiliau o’u cyfrifiadur, neu o rywle arall yn Blackboard, fel y casgliad cynnwys yn ogystal â chysylltiadau mewn gwahanol fformatau.
1) Cliciwch ar Build Content a dewiswch File.
2) Cliciwch ar Browse i ddod o hyd i’r ffeil.
3) Atodwch y ffeil(iau) berthnasol/perthnasol cyn clicio ar Submit.
4) Rhowch enw i’r cynnwys yr ydych wedi’i ychwanegu. Daw’r enw’n ddolen gyswllt i’r eitem yn y tabl cynnwys.
5) Gosodwch yr opsiynau ar gyfer dangos y cynnwys fel sydd angen
6) Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Submit.
7) Bydd y ffeil wedi’i hychwanegu at y modiwlau dysgu a bydd wedi’i chynnwys yn awtomatig yn y tabl cynnwys.
8) Bydd cynnwys yn ymddangos yn y drefn y cafodd ei ychwanegu, ond gellir newid y drefn drwy lusgo eitem i leoliad gwahanol yn y modiwl dysgu. Gellir hefyd aildrefnu eitemau gan ddefnyddio’r offeryn aildrefnu ar y bysellfwrdd.
9) Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Submit. Mae’n bosib y bydd angen i chi adnewyddu’r tabl cynnwys i adlewyrchu’r newidiadau i’r modiwl dysgu.
Adeiladu Modiwl Dysgu
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:07
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn