Mae nodwedd Mashup Blackboard yn caniatáu i chi ddod o hyd i gynnwys y tu allan i Blackboard ac i ddod a hyn i mewn i’ch cwrs. Mae Offerynnau Mashup yn darparu dull syml o ychwanegu amlgyfryngau at eich cwrs heb orfod eu creu eich hun.
Ychwanegu Mashup ar Ardal Gynnwys bresennol
1) Gwnewch yn siŵr eich bod yn yr ardal gynnwys berthnasol, a dewiswch Build Content
2) Dewiswch yr offeryn mashup sydd ei hangen arnoch (youtube, slideshare, flickr ayyb) drwy glicio ar Build Content. Mae Cynnwys o ffynonellau gwahanol ar gael drwy’r nodwedd Mashups:
3) Chwiliwch am y cynnwys perthnasol trwy ddilyn yr anogwyr ar y sgrin. Mae’r sgrin nesaf yn caniatáu i’r defnyddiwr ddewis sut y mae’r ffwythiannau chwilio’n dehongli geiriau allweddol yn y chwiliad. Gallwch hefyd chwilio yn ôl iaith.
4) Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Go.
Chwilio am Gynnwys y tu allan i gwrs
Mae’r peiriant chwilio’n dangos nifer o opsiynau sy’n cwrdd â’r paramedrau chwilio diffiniedig. I ddod o hyd i’r dewisiadau gorau ar gyfer eich cwrs defnyddiwch y ffwythiannau sortio.
Dangos Mashups Video (YouTube) yn yr Ardal Gynnwys
1) Defnyddiwch y botwm Preview i weld y cynnwys cyn ei ychwanegu at y cwrs, a chliciwch ar Select i ychwanegu’r cynnwys:
3) Mae’r dewis gennych i ychwanegu disgrifiad ar gyfer y mashup.
4) Nawr, gosodwch yr opsiynau dangos ar gyfer y mashup.
5) Ceir ychydig o opsiynau, fel yn ôl y rhestr ehangedig yn y ddelwedd uchod:
i) Mae’r dewis ‘Thumbnail’ yn dangos chwaraewr bach sy’n mynd yn fwy os ydych yn ei glicio.
ii) Mae’r ddolen ‘Text’ yn dangos testun sy’n ehangu i chwaraewr ar ôl ei glicio.
iii) Mae ‘Embed Video’ yn dango chwaraewr maint llawn yn yr ardal gynnwys.
6) Gallwch hefyd ddewis p’un ai i ddangos URL y fideo a’r wybodaeth YouTube i fyfyrwyr neu beidio, neu gallwch atodi ffeil leol i’r mashup a gosod yr opsiynau argaeledd
7) Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Submit. Bydd y Mashup yn ymddangos ar waelod yr ardal Gynnwys.
Creu Offeryn Mashup
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:17
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn