Creu Cysylltiadau Offerynnau


Gallwch helpu myfyrwyr gael mynediad at yr hyn sydd eu hangen arnynt drwy ychwanegu dolenni cyswllt at offerynnau a ddefnyddir yn fynych mewn rhannau eraill o’ch cwrs. Er enghraifft, ychwanegu cysylltiadau at My Grades ac Email i Ddewislen y Cwrs. Neu mewn ardaloedd cynnwys, gosod dolenni cyswllt yn agos at gynnwys cyfarwyddiadol.
Creu cyswllt ar Ddewislen y Cwrs
I ddechau, ewch i Ddewislen y Cwrs a chliciwch ar arwydd adio yn y ddewislen gyfarwyddiadol:

Dewiswch Tool Link o’r gwymplen:

Ar gyfer y cyswllt newydd, rhowch enw byr iddo, dewiswch y math o offeryn a thiciwch y blwch wrth ymyl Available to Users:

Ar ôl i chi wneud hyn, cliciwch ar y botwm cyflwyno.
Dylai’r cyswllt newydd ymddangos ar waelod dewislen y cwrs. Os hoffech ei symud ymhellach i fyny’r ddewislen, cliciwch ar ochr chwith yr eitem ddewislen a llusgwch hi i fyny neu i lawr hyd nes ei bod yn y lle cywir:

Creu cyswllt at offeryn mewn Ardal Gynnwys
Gwnewch yn siŵr eich bod yn yr ardal gynnwys berthnasol, a dewiswch Tools:

Dewiswch Tools Area o’r gwymplen. Bydd y cyswllt hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad ar yr HOLL offerynnau sydd ar gael:

Rhowch enw perthnasol i gyswllt yr offeryn a rhowch yr opsiynau angenrheidiol i mewn megis argaeledd a chyfyngiadau dyddiad/amser:
 
Ar ôl i chi orffen cliciwch ar y botwm Submit.

Diweddariad diwethaf:
24-10-2016 17:19
Awdur: :
Helen
Adolygu:
1.1
Cyfradd gyfartalog:0 (0 Votes)
 

Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn

Chuck Norris has counted to infinity. Twice.

Records in this category

10 UCHAF RSS

  1. Beth ydw i’n ei wneud pan fo rhybudd cynnwys ... (839411 views)
  2. Ni allaf fewngofnodi i'm cyfrif ar y fewnrwyd/Blackboard. A ... (671520 views)
  3. Sut i ofyn am fynediad i safle modiwl neu ... (98660 views)
  4. Asesu eich Wiki (85349 views)
  5. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Podlediad (28260 views)
  6. Asesu eich Blog (23910 views)
  7. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Wiki (22292 views)
  8. Asesu eich Dyddiadur (13228 views)
  9. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Dyddiadur (10290 views)
  10. Allforio eich Wiki (6572 views)

Tags