Mae Gwedd Glyfar yn ffordd o weld rhai manylion o'r Ganolfan Graddau ar sail meini prawf a ddewisir. Mae Blackboard yn creu nifer o olygon clyfar diofyn. Caiff addysgwyr greu rhai eu hunain hefyd, trwy ychwanegu meini prawf sy'n adlewyrchu gweithgarwch a chyflawniad penodol gan fyfyrwyr ar y cwrs.
1) Cewch fynediad at y Ganolfan Graddau Lawn o'r Panel Rheoli.
2) Cliciwch ar y sieffrynau wrth ochr y botwm Rheoli, a dewis Gweddau Clyfar.
3) Mae'r dudalen Gweddau Clyfar yn dangos y gweddau clyfar di-ofyn. Dewiswch yr un yr ydych chi am ei defnyddio.
4) I greu gwedd glyfar newydd, cliciwch ar y botwm Creu Gwedd Glyfar.
5) Rhowch enw byr am y wedd glyfar newydd, a disgrifiad os oes angen. Cewch ddewis ychwanegu'r wedd glyfar i'ch ffefrynnau hefyd, fydd yn rhoi dolen ar y panel rheoli, neu cewch ei hychwanegu'n ffefryn ar ôl i chi orffen.
6) Yna, nodwch pa fath o wedd yr hoffech ychwanegu meini prawf ato.
7) Gosodwch y meini prawf am y wedd glyfar. Mae'r gosodiadau hyn yn diffinio pa fyfyrwyr a pha golofnau o'r Ganolfan Graddau gânt eu dangos. (Gweler y ddelwedd uchod.)
8) Dewiswch statws yr eitemau sydd i'w dangos o'r gwymplen Canlyniadau Hidlo.
9) Pan fyddwch yn barod, cliciwch ar Cyflwyno.
Bydd y wedd glyfar newydd yn ymddangos ar y dudalen Gweddau Clyfar.
Cewch ychwanegu gwedd glyfar at y panel rheoli trwy glicio'r seren yn y golofn Ychwanegu i'r Ffefrynnau.
Bellach, cewch gyrchu'r wedd glyfar o'r Panel Rheoli trwy ddilyn camau 1 - 3 uchod.
Creu Gwedd Glyfar ar gyfer y Ganolfan Graddau
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:32
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn