Mae'n bosibl ychwanegu atodiadau at eich dyddiadur gan ddefnyddio'r Golygydd WYSIWYG.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn y dyddiadur perthnasol.
Cliciwch ar Ychwanegu Cofnod Newydd a rhowch deitl i gofnod y dyddiadur.
Ardal y golygydd WYSIWYG wedi'i hamlinellu mewn coch yw'r ardal berthnasol.
Mae'r rhain yn cynnwys (O'r chwith):
Ychwanegu/Golygu dolen - Mae hyn yn caniatáu i chi greu dolen i ddogfen neu dudalen we, a hefyd i newid y ddolen ar ôl ei chreu.
Mewnosod/Golygu delwedd - Mae hyn yn caniatáu i chi fewnosod ffeil ddelwedd naill ai o'ch Cyfrifiadur Personol neu o wefan megis Flickr.
Mewnosod/Golygu fideo - Mae hyn yn caniatáu i chi atodi neu fewnosod ffeiliau fflach neu fideo yn eich dyddiadur.
Llwytho ffeil - Mae hyn yn caniatáu i chi bori'ch cyfrifiadur a llwytho ffeil unigol fel atodiad.
Ychwanegu angor - Mae hyn yn caniatáu i chi greu cyswllt o fewn tudalen (Os oes tudalen hir gennych, mae'n golygu nad oes rhaid i chi sgrolio).
O dan y golygydd testun, cewch roi rhywfaint o destun i fynd gyda'ch atodiad fel arall, cewch atodi'r ffeiliau gan ddefnyddio'r eiconau a esboniwyd yn y ddelwedd uchod.
Ar ôl i chi ychwanegu eich atodiadau ac ysgrifennu eich blogiad, cliciwch ar Cadw.
Ychwanegu Ffeil at eich Dyddiadur
- Diweddariad diwethaf:
- 25-10-2016 10:21
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.2
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn