Tystiolaeth o gyflwyno, Cyfeirnod cyflwyniad Turnitin, a derbynebau digidol.
Ar ôl cyflwyno'ch aseiniad, bydd y system yn eich tywys i dudalen cadarnhau derbyn ar waelod hyn (efallai y bydd angen i chi sgrolio i lawr i'w weld), dylech weld Cyfeirnod eich Cyflwyniad. Mae hyn yn rhif 8 digid. Dylech nodi'r rhif hwn - dyma'r unig dystiolaeth a gewch ar y pwynt yma i ddweud eich bod wedi cyflwyno rhywbeth. Dylech ei ysgrifennu rhywle diogel, neu gymryd ciplun o'r sgrin a chadw hwnna.
Er y dylech dderbyn derbynneb oddi wrth y system trwy e-bost, os digwydd i hyn fod yn hwyr neu fynd ar goll, bydd angen eich rhif o hyd yn dystiolaeth eich bod wedi cyflwyno'r gwaith.
Os na fydd derbynneb yn ymddangos ar y sgrin, ni ddylech gymryd bod eich cyflwyniad wedi'i dderbyn. Os credwch eich bod wedi cael problem, cysylltwch â TG ym mhrif neuadd catalogio'r llyfrgell am ragor o gymorth. Os na ellwch ddod i'r llyfrgell i holi, cewch ffonio estyniad 5060, neu 01792 295060 os nad ydych ar y campws.
Os ydych chi'n clicio "Dychwelyd i'r rhestr aseiniadau", ac wedyn "gweld", bydd ffenest newydd yn ymddangos, gan ddangos eich aseiniad yn y dangosydd dogfennau. Ym mar gwaelod y ffenest hon, byddwch yn gweld eicon argraffydd. O glicio ar hyn, cewch dri dewis - mae angen dewis "Lawrlwytho Derbynneb Ddigidol ar ffurf PDF i'w argraffu".
Dewiswch agor neu gadw'r ffeil. I argraffu'r dderbynneb, agorwch y ffeil a chliciwch ar icon yr argraffydd ar ben y sgrin. Yna, cliciwch Iawn yn y blwch argraffu i anfon eich derbynneb i'r argraffydd.