Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddiant i staff ar sail wyneb i wyneb a sesiynau hyfforddiant ar gyfer grwpiau bach yn ôl y galw. Caiff unrhyw sesiynau hyfforddiant agored eu hysbysebu drwy e-bost a hefyd drwy Wasanaethau Datblygu a Hyfforddiant.
Mae’r hyfforddiant y gallwn ei gynnal ar eich cyfer yn cynnwys pob agwedd ar Blackboard, Turnitin, Grademark, Clickers, Grade Centre ac Offerynnau e-ddysgu eraill. Os oes diddordeb gennych mewn hyfforddiant, naill ai ar gyfer unigolyn neu ar gyfer grŵp bach, yna anfonwch e-bost atom
Rydym hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio Blackboard rhwng 12 a 2pm bob dydd Mercher yn ystod y tymor. Does dim angen gwneud apwyntiad, y cyfan sydd agen i chi ei wneud yw troi i fyny! Gellir dod o hyd i fanylion yma