Mae’r swyddogaeth hon yn debyg i fforymau o’r safbwynt ei bod yn caniatáu i ddefnyddwyr gael trafodaethau mewn edafedd gyda’u cwrs neu sefydliad. Mae trafodaethau mewn edafedd ynn golygu y caiff sylwadau/cofnodion ar yr un testun eu cysylltu gyda’i gilydd yn awtomatig.
Er mwyn sefydlu bwrdd trafod, rhaid i chi fod yn gyfarwyddwr ar y cwrs neu’n arweinydd ar y sefydliad.
Ceir eitem ddewislen o’r enw Tools wedi’i rhagosod. Cliciwch arni:
O’r rhestr o offerynnau sydd ar gael, cliciwch ar y cyswllt Bwrdd Trafod:
Cewch yna’r opsiwn "Create Forum" (Gallwch ychwanegu gymaint ag yr hoffech):
Rhowch enw ystyrlon a disgrifiaf i’ch fforwm
Mae adran nesaf y dudalen yn ymdrin ag argaeledd y fforwm. Gosodwch y dyddiadau ar gael perthnasol neu cliciwch y botymau radio i’w wneud ar gael (h.y. yn weladwy).
Mae’r drydedd adran yn ymdrin â’r gosodiadau. Mae’r rhain yn ddigon amlwg.
;Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar y botwm cyflwyno.
Sut i ddefnyddio’r Byrddau Trafod
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 16:02
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.2
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn