Mae’r erthygl hon yn cymryd yn ganiataol eich bod eisoes wedi creu grwpiau - os nad ydych yn siŵr sut i wneud hyn cliciwch yma yn gyntaf
Dylai bod grwpiau yn gyraeddadwy yn awtomatig o’r eitem ddewislen Course Tools - ond mae llawer o bethau eraill ar gael yma ac felly nid dyma’r lle rhesymegol i fyfyrwyr chwilio am, dyweder, rhestr gofrestru. Hefyd mae rhai darlithwyr yn penderfynu peidio ag arddangos yr eitem ddewislen Course Tools yn y lle cyntaf. Rydym yn argymell eich bod yn creu cyswllt i’r grwpiau (ac unrhyw restrau cofrestru yn awtomatig) naill ai fel eitem Ddewislen newydd neu fel cyswllt ar dudalen o fewn ardal gynnwys:
Eitem Ddewislen Newydd
Yn gyntaf Cliciwch y botwm + glas ar ben prif ddewislen y cwrs. Bydd hyn yn agor dewislen gyd-destun lle y bydd angen i chi ddewis cyswllt Create Tool.;
Gofynnir i chi yna roi enw i’r eitem ddewislen, dewis y math o offeryn, a phenderfynu p’un ai yr ydych am iddo fod ar gael i ddefnyddwyr neu beidio:
; ;
Caiff yr eitem ddewislen newydd ei hychwanegu’n awtomatig at waelod y ddewislen felly gallwch ei llusgo i ba safle yr hoffech.
Creu Cyswllt
Gallwch hefyd greu cyswllt ar unrhyw dudalen gynnwys yn Blackboard gan ddefnyddio’r botwm Offerynnau glas ar frig unrhyw faes cynnwys a dewis Grwpiau o’r rhestr:
Ble bynnag yr ydych yn penderfynu gosod y ddolen gyswllt, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich myfyrwyr ble i ddod o hyd iddi
Erthyglau eraill defnyddiol ynglŷn â Grwpiau
Creu Grwpiau yn Blackboard
Cofrestru myfyrwyr mewn grwpiau mewn crynswth
Sut ydw i’n gwneud grwpiau ar gael i fyfyrwyr?
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 16:45
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn