Mae’r erthygl hon yn cymryd yn ganiataol eich bod eisoes wedi creu grwpiau yn Blackboard - os nad ydych cliciwch yma yn gyntaf
Wrth i chi greu grŵp â llaw, neu gyfres o grwpiau, mae’r cyfle gennych i ychwanegu myfyrwyr fesul un yn ystod y broses greu. Gallwch hefyd eu hychwanegu fesul un trwy fynd i mewn i’r grŵp a’i olygu. Nid dyma’r ffordd symlaf o ychwanegu myfyrwyr o reidrwydd gan fod y deialog ychwanegu dim ond yn dangos enwau i chi (nid rhif myfyriwr) felly mae’n gallu bod yn ddryslyd os oes enwau tebyg. Hefyd os oes grŵp mawr o fyfyrwyr gennych i’w hychwanegu â llaw gall gymryd llawer o amser a bydd yn hawdd gwneud gwallau. Ceir offeryn bloc adeiladu trydydd parti sy’n caniatáu i chi ychwanegu eich myfyrwyr i gyd o’u grwpiau drwy lwytho un ffeil. Dyma’r camau
Os nad ydych wedi gwneud yn barod, crëwch Grwpiau neu Gyfres o Grwpiau yn Blackboard a nodwch yn ofalus yr enw yr ydych yn ei roi i bob grŵp.
Nesaf mae angen i chi greu’r rhestr - gwneir hyn y tu allan i Blackboard gan ddefnyddio Taenlen Microsoft Excel. Agorwch Excel a chrëwch restr yn dangos rhifau myfyrwyr (neu Rifau Staff os ydych yn ychwanegu aelodau staff hefyd) yng ngholofn A ac enwau’r grwpiau yng ngholofn B - PEIDIWCH Â DEFNYDDIO PENYNNAU NA RHOI UNRHYW BETH MEWN UNRHYW GELL ARALL
(NB rhaid i enwau’r grwpiau fod union yr un peth ag enwau’r grwpiau yn Blackboard)
Nesaf, defnyddiwch yr opsiwn SAVE AS o’r ddewislen File yn Excel (yn Excel 2007 cliciwch ar y botwm mawr ar ochr chwith y bar offerynnau) - yn y ddeialog Save As -rhowch enw i’r ffeil ac yna cliciwch yn y bocs Save as Type a gwasgwch y llythyren "c" - dylai hyn agor y ffeil CSV yn awtomatig - yna cadwch y ffeil - Sylwer bydd rhaid i chi ateb "YES" i’r ddau rybudd sy’n ymddangos yn y blychau cyn i’r ffeil gadw
(NB gallwch ychwanegu myfyrwyr at grwpiau lluosog mewn un daenlen does dim rhaid i chi greu taenlen ar gyfer pob grŵp - ond gallwch wneud hyn os ydyw’n well gennych)
Cliciwch ar Users and Groups from o fewn y Panel Rheoli, a dewiswch Groups:
O’r sgrin sy’n ymddangos, bydd angen i chi glicio ar y botwm Import:
Cliciwch ar y cyswllt Browse My Computer yn yr adran Import Group Members, a llywiwch i ddod o hyd i’ch ffeil csv:
Ar ôl i’r ffeil lwytho cewch eich tywys i dudalen ganlyniadau a fydd yn dangos unrhyw ffeiliau a fydd wedi methu. Os cewch negeseuon gwallau fel hyn gallwch naill ai fynd yn ôl, cywiro’r ffeil CSV a’i hail-lwytho (bydd y rhai yr ydych eisoes wedi’u hychwanegu’n methu ond dylai’r rhai yr ydych wedi’u cywiro lwyddo) neu, siŵr o fod yn gyflymach, gallwch ychwanegu’r myfyriwr priodol â llaw trwy sgrin olygu’r grŵp
Erthyglau eraill defnyddiol ynglŷn â grwpiau
Creu grwpiau yn Blackboard
Gwneud Grwpiau ar gael i fyfyrwyr