Creu Gwedd Glyfar ar gyfer y Ganolfan Graddau


Mae Gwedd Glyfar yn ffordd o weld rhai manylion o'r Ganolfan Graddau ar sail meini prawf a ddewisir. Mae Blackboard yn creu nifer o olygon clyfar diofyn. Caiff addysgwyr greu rhai eu hunain hefyd, trwy ychwanegu meini prawf sy'n adlewyrchu gweithgarwch a chyflawniad penodol gan fyfyrwyr ar y cwrs.
1)   Cewch fynediad at y Ganolfan Graddau Lawn o'r Panel Rheoli.

2)   Cliciwch ar y sieffrynau wrth ochr y botwm Rheoli, a dewis Gweddau Clyfar.

3)   Mae'r dudalen Gweddau Clyfar yn dangos y gweddau clyfar di-ofyn. Dewiswch yr un yr ydych chi am ei defnyddio.  

4)   I greu gwedd glyfar newydd, cliciwch ar y botwm Creu Gwedd Glyfar.

5)   Rhowch enw byr am y wedd glyfar newydd, a disgrifiad os oes angen. Cewch ddewis ychwanegu'r wedd glyfar i'ch ffefrynnau hefyd, fydd yn rhoi dolen ar y panel rheoli, neu cewch ei hychwanegu'n ffefryn ar ôl i chi orffen.

6)   Yna, nodwch pa fath o wedd yr hoffech ychwanegu meini prawf ato.  

7)   Gosodwch y meini prawf am y wedd glyfar. Mae'r gosodiadau hyn yn diffinio pa fyfyrwyr a pha golofnau o'r Ganolfan Graddau gânt eu dangos. (Gweler y ddelwedd uchod.)
8)   Dewiswch statws yr eitemau sydd i'w dangos o'r gwymplen Canlyniadau Hidlo.

9)   Pan fyddwch yn barod, cliciwch ar Cyflwyno.
Bydd y wedd glyfar newydd yn ymddangos ar y dudalen Gweddau Clyfar.
Cewch ychwanegu gwedd glyfar at y panel rheoli trwy glicio'r seren yn y golofn Ychwanegu i'r Ffefrynnau.
Bellach, cewch gyrchu'r wedd glyfar o'r Panel Rheoli trwy ddilyn camau 1 - 3 uchod.

Diweddariad diwethaf:
24-10-2016 17:32
Awdur: :
Helen
Adolygu:
1.1
Cyfradd gyfartalog:0 (0 Votes)
 

Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn

Chuck Norris has counted to infinity. Twice.

Records in this category

10 UCHAF RSS

  1. Beth ydw i’n ei wneud pan fo rhybudd cynnwys ... (839396 views)
  2. Ni allaf fewngofnodi i'm cyfrif ar y fewnrwyd/Blackboard. A ... (671483 views)
  3. Sut i ofyn am fynediad i safle modiwl neu ... (98647 views)
  4. Asesu eich Wiki (85334 views)
  5. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Podlediad (28248 views)
  6. Asesu eich Blog (23895 views)
  7. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Wiki (22280 views)
  8. Asesu eich Dyddiadur (13220 views)
  9. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Dyddiadur (10274 views)
  10. Allforio eich Wiki (6560 views)

Tags