Addasu'r Wedd Canolfan Graddau


Caiff addysgwyr addasu gwedd y Ganolfan Graddau trwy guddio colofnau er mwyn canolbwyntio ar ddata penodol a lleihau sgrolio. Nid yw colofnau sydd wedi'u cuddio'n cael eu dileu o'r Ganolfan Graddau, ac mae modd eu dangos eto ar unrhyw adeg.

Bydd angen i chi fod yn y Ganolfan Graddau Lawn. Dewiswch Canolfan Graddau, ac yna Canolfan Graddau Lawn o'r Panel Rheoli.

Cliciwch ar y sieffrynau wrth ochr y golofn yr ydych yn dymuno ei chuddio, a dewis Cuddio Colofn.

Bellach, mae'r golofn wedi'i chuddio.

Cewch adfer colofn gudd o'r dudalen Trefnu Colofnau. Mae'r dudalen Trefnu Colofnau'n rheoli sut mae gweddau gwahanol y Ganolfan Graddau'n cael eu dangos. Cewch gyrchu hon o'r botwm Rheoli.

Ticiwch bob colofn yr ydych am ei dangos - bydd y colofnau cudd yn ymddangos mewn llwyd. Cliciwch ar y gwymplen dangos/cuddio colofn i ddangos y colofnau perthnasol.

Pan rydych yn barod, cliciwch ar Cyflwyno.

Bydd neges llwyddo'n ymddangos.

Bellach, bydd y golofn yn weladwy yn y Ganolfan Graddau.

Diweddariad diwethaf:
24-10-2016 17:35
Awdur: :
Helen
Adolygu:
1.1
Cyfradd gyfartalog:0 (0 Votes)
 

Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn

Chuck Norris has counted to infinity. Twice.

Records in this category

10 UCHAF RSS

  1. Beth ydw i’n ei wneud pan fo rhybudd cynnwys ... (839395 views)
  2. Ni allaf fewngofnodi i'm cyfrif ar y fewnrwyd/Blackboard. A ... (671472 views)
  3. Sut i ofyn am fynediad i safle modiwl neu ... (98645 views)
  4. Asesu eich Wiki (85331 views)
  5. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Podlediad (28247 views)
  6. Asesu eich Blog (23895 views)
  7. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Wiki (22278 views)
  8. Asesu eich Dyddiadur (13216 views)
  9. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Dyddiadur (10274 views)
  10. Allforio eich Wiki (6560 views)

Tags