Ychwanegu Ffeil at eich Dyddiadur


Mae'n bosibl ychwanegu atodiadau at eich dyddiadur gan ddefnyddio'r Golygydd WYSIWYG.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn y dyddiadur perthnasol.

Cliciwch ar Ychwanegu Cofnod Newydd a rhowch deitl i gofnod y dyddiadur.  

Ardal y golygydd WYSIWYG wedi'i hamlinellu mewn coch yw'r ardal berthnasol.

Mae'r rhain yn cynnwys (O'r chwith):

Ychwanegu/Golygu dolen - Mae hyn yn caniatáu i chi greu dolen i ddogfen neu dudalen we, a hefyd i newid y ddolen ar ôl ei chreu.
Mewnosod/Golygu delwedd - Mae hyn yn caniatáu i chi fewnosod ffeil ddelwedd naill ai o'ch Cyfrifiadur Personol neu o wefan megis Flickr.
Mewnosod/Golygu fideo - Mae hyn yn caniatáu i chi atodi  neu fewnosod ffeiliau fflach neu fideo yn eich dyddiadur.
Llwytho ffeil - Mae hyn yn caniatáu i chi bori'ch cyfrifiadur a llwytho ffeil unigol fel atodiad.
Ychwanegu angor - Mae hyn yn caniatáu i chi greu cyswllt o fewn tudalen (Os oes tudalen hir gennych, mae'n golygu nad oes rhaid i chi sgrolio).
                     
O dan y golygydd testun, cewch roi rhywfaint o destun i fynd gyda'ch atodiad  fel arall, cewch atodi'r ffeiliau gan ddefnyddio'r eiconau a esboniwyd yn y ddelwedd uchod.

Ar ôl i chi ychwanegu eich atodiadau ac ysgrifennu eich blogiad, cliciwch ar Cadw.

Diweddariad diwethaf:
25-10-2016 10:21
Awdur: :
Helen
Adolygu:
1.2
Cyfradd gyfartalog:0 (0 Votes)
 

Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn

Chuck Norris has counted to infinity. Twice.

Records in this category

10 UCHAF RSS

  1. Beth ydw i’n ei wneud pan fo rhybudd cynnwys ... (839400 views)
  2. Ni allaf fewngofnodi i'm cyfrif ar y fewnrwyd/Blackboard. A ... (671499 views)
  3. Sut i ofyn am fynediad i safle modiwl neu ... (98653 views)
  4. Asesu eich Wiki (85338 views)
  5. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Podlediad (28251 views)
  6. Asesu eich Blog (23903 views)
  7. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Wiki (22283 views)
  8. Asesu eich Dyddiadur (13222 views)
  9. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Dyddiadur (10282 views)
  10. Allforio eich Wiki (6566 views)

Tags