Yn yr un modd ag y gall pob defnyddiwr osod pa iaith yr hoffent ei defnyddio, cyn iddynt fewngofnodi, gall Cyfarwyddwyr osod yr iaith lywio ar gyfer modiwl arbennig. Gall hyn fod yn offeryn defnyddiol ar gyfer cyrsiau iaith er enghraifft.
I wneud hyn ceir dwy gam syml i’w dilyn:
O fewn eich modiwl, cliciwch ar y; ddolen ‘Customisation’ o fewn y Panel Rheoli:
Dewiswch "Properties" o’r dewis o opsiynau:
O’r dudalen hon gallwch osod yr iaith ddewisol yn Adran 6 trwy ddewis pa iaith yr hoffech ei defnyddio o’r gwymplen:
Ceir ychydig o bethau i’w hystyried cyn newid iaith modiwl
- Os ydych yn dewis iaith bydd yr iaith hon yn cymryd lle’r iaith ragosodol (English UK) ond os yw defnyddiwr wedi nodi dewis iaith yn benodol caiff y dewis hwn ei gynnal oni bai eich bod yn dewis yr “opsiwn gorfodi pecyn iaith"
- Gwnewch yn siŵr eich bod dim ond yn gosod yr opsiwn Gorfodi lle yr ydych yn hyderus y bydd eich myfyrwyr i gyd yn gallu llywio gan ddefnyddio’r iaith ddewisol - nid oes modd iddynt newid yr iaith ar gyfer eich modiwl os ydych chi wedi’i gorfodi.
- Nid yw’r pecyn yn cyfieithu unrhyw gynnwys - ac ni fydd yn newid eitemau dewislen sydd wedi’u golygu - felly er enghraifft os ydych eisoes wedi cyfieithu eitemau dewislen i’r Gymraeg yna ni fydd yn ceisio cyfieithu’r rhain eto
- Nid yw’n creu dewislenni dwyieithog- os oes angen y rhain arnoch bydd rhaid i chi eu creu eich hun drwy’r opsiwn dewislen golygu cwrs.
Tags: blackboard, language