Ceir dau opsiwn, un yw ychwanegu Cyswllt Cwrs, a’r llall yw ychwanegu Cyswllt Mewnol.
Creu Cyswllt Cwrs:
Mae’r dewis Cyswllt Cwrs ar Blackboard yn caniatáu i gyswllt gael ei greu rhwng gwrthrychau mewn un rhan o’r cwrs a rhan arall.
O fewn eich modiwl (ac yn yr ardal yr hoffech gysylltu ATI), cliciwch ar y botwm "Build Content":
Dewiswch yr opsiwn, "Course Link"
Mae’r sgrin ganlynol yn caniatáu i chi osod nifer o opsiynau, yn ogystal â phori o fewn y cwrs am y ddogfen/ffeil/ffolder/eitem ddewislen berthnasol.
Mae Adran 1 yn ymwneud â lleoliad a phriodweddau’r ffeil tra bo adran 2 yn caniatáu am gyfyngiadau dyddiad, olrhain ystadegau ayyb.
Creu Cyswllt Testun Mewnol
Mae hefyd yn bosib ychwanegu cysylltiadau at rannau eraill o safle’r cwrs o fewn y golygydd testun ar Blackboard - gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth ychwanegu testun at dudalen lle rydych am ddarparu cysylltiadau opsiynol yn yr ardal destun.;
O fewn yr ardal yr hoffech gopïo OHONI, de-gliciwch ar unrhyw eitem ddewislen, ffolder, neu gyswllt at ddogfen a dewiswch "Copy shortcut" o’r ddewislen gyswllt (NB:; PEIDIWCH â defnyddio’r cyswllt sy’n ymddangos yn yr URL/Bar Cyfeiriad).; Bydd hyn yn storio’r cyswllt cywir dros dro yn eich clipfwrdd mynediad.
O fewn y golygydd testun yn Blackboard amlygwch y testun (neu’r ddelwedd) yr hoffech gysylltu ohono.; unwaith y mae hyn wedi’i amlygu, cliciwch ar y cyswllt ‘Add/Edit’ yn y bar offer.
Bydd hyn yna’n agor blwch sy’n galluogi i chi ludo’r cyswllt mynediad
Bydd y testun a ddewiswyd yn gynharach bellach yn ymddangos fel testun lliw glas, wedi’i danlinellu.
Os yw’r eitem yna wedi’i gwblhau, cliciwch ‘Submit’ fel arfer i’w ymddangos
NB:; Os ydych yn defnyddio golwg html (trwy glicio <> yn y bar offer) yna bydd angen i chi amgáu’r cyswllt yn y tabiau Angor fel a ganlyn
<A href=”http:⁄⁄bb.swan.ac.uk/bin/common/content.pl?action=LINK&render_type=DEFAULT&file_id=_3598_ “>Cliciwch Yma<⁄A> i gael gwybod rhagor am y weithdrefn hon.
pan fyddwch yn defnyddio’r golygydd WYSIWYG, fel sydd wedi’i ddisgrifio uchod, caiff y rhain eu mewnosod yn awtomatig
Sut ydw i’n cysylltu o un lle yn fy modiwl cwrs i le arall (e.e. o Gyhoeddiadau i ddogfen)?
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 12:06
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn