Sut ydw i’n creu archif neu allforyn o fy modiwl cwrs Blackboard?


O fewn eich modiwl, cliciwch ar y cyswllt "Packages and Utilities" o fewn y Panel Rheoli:

Dewiswch "Export/Archive Course" o’r rhestr opsiynau:

Dewiswch os ydych am Allforio Pecyn (allforio eich cwrs) neu Archifo’r Cwrs.

I Archifo
Mae’r sgrin nesaf yn caniatáu i chi ddewis p’un ai i gynnwys yr hanes Grade Center neu beidio,; Gallwch hefyd ddewis os ydych am gopïo dolenni cyswllt yn unig at ffeiliau’r cwrs neu os ydych am gopïo cynnwys y cwrs hefyd:

Cliciwch ar Submit ar ôl i chi ddewis eich opsiynau.
I Allforio
Bydd y Sgrin Nesaf yn caniatáu chi i ddewis p’un ai i allforio’r dolenni cyswllt yn unig at ffeiliau’r cwrs neu i gopïo cynnwys y cwrs hefyd.

Mae Adran 3 y sgrin hon yn galluogi i chi ddewis yn benodol pa ddeunydd/cynnwys yr ydych am ei allforio:

Cliciwch ar Submit ar ôl i chi ddewis eich opsiynau.
Bydd eich allforyn mewn ciw a byddwch yn derbyn e-bost unwaith y mae’r broses wedi’i chwblhau. ;Bydd hyn fel arfer yn cymryd ychydig funudau.
I agor neu gadw’r ffeil, llywiwch yn ôl i’r sgrin Archifo/Allforio, ;Mae’n bosib y bydd angen i chi glicio ar y botwm Adnewyddu.
Bydd y pecyn yr ydych wedi’i allforio bellach yn dangos ar y sgrin honno, ynghyd â stamp dyddiad/amser,; cliciwch ar y cyplysau wrth ymyl y pecyn a dewiswch opsiwn o’r rhestr:

NB: Er eich bod yn gallu cadw cwrs sydd wedi’i archifo, bydd angen i chi gysylltu â’r tîm Blackboard os oes angen help arnoch i adfer yr archif.

Tags: archive, Blackbaord, export
Diweddariad diwethaf:
24-10-2016 12:22
Awdur: :
Helen
Adolygu:
1.3
Cyfradd gyfartalog:0 (0 Votes)
 

Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn

Chuck Norris has counted to infinity. Twice.

Records in this category

10 UCHAF RSS

  1. Beth ydw i’n ei wneud pan fo rhybudd cynnwys ... (839411 views)
  2. Ni allaf fewngofnodi i'm cyfrif ar y fewnrwyd/Blackboard. A ... (671521 views)
  3. Sut i ofyn am fynediad i safle modiwl neu ... (98662 views)
  4. Asesu eich Wiki (85350 views)
  5. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Podlediad (28260 views)
  6. Asesu eich Blog (23911 views)
  7. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Wiki (22295 views)
  8. Asesu eich Dyddiadur (13229 views)
  9. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Dyddiadur (10291 views)
  10. Allforio eich Wiki (6572 views)

Tags