Mae’r offeryn hwn yn caniatáu i’r defnyddiwr greu rhestr o dasgau y mae’n rhaid eu cwblhau ar gyfer pob modiwl. Bydd y wybodaeth hon yna’n cael ei chasglu’n awtomatig i greu tasg wedi’i phersonoli ar gyfer myfyrwyr a staff ynghyd.
I ychwanegu tasg rhaid i chi fod yn gyfarwyddwr ar y cwrs neu’n arweinydd ar y sefydliad.
O fewn y modiwl, cliciwch ar ddolen y Panel Rheoli ac edrychwch am y blwch Offerynnau Cwrs neu Offerynnau Sefydliad.
Cliciwch ar yr opsiwn ‘Tasks’
Dewiswch y botwm Create Course Task:
Rhowch enw i’ch tasg, ac os oes angen, rhowch ddisgrifiad ohono
Nodwch erbyn pryd y mae’n rhaid cwblhau’r dasg
Rhowch flaenoriaeth i’ch tasg – uchel, normal neu isel:
Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar y botwm cyflwyno.