Mae Gwybodaeth Staff bellach ar gael dan Contacts yn Blackboard 9.; Mae Gwybodaeth Staff yn caniatáu i chi osod gwybodaeth am eich hun fel bod myfyrwyr yn gallu’ch adnabod a dod o hyd i chi’n hawdd.
I ychwanegu eich gwybodaeth, rhaid i chi fod yn gyfarwyddwr ar y cwrs neu’n arweinydd ar y sefydliad.
O fewn y modiwl, cliciwch ar ddolen y Panel Rheoli ac edrychwch am y bocs Offerynnau Cwrs neu Offerynnau Sefydliad.
Cliciwch ar yr opsiwn Contacts:
Rhoddir dewis i chi naill ai ‘Create folder’ neu ‘Create Contact’.;Cliciwch ar ‘Create Contact’.
Cwblhewch y wybodaeth berthnasol - does dim rhaid i chi ychwanegu’r holl fanylion os nad ydych chi eisiau.
Mae’r dewis gennych i wneud eich proffil ar gael, h.y. yn weladwy i eraill.
Gallwch hefyd ychwanegu llun at eich proffil. Mae hyn yn ddewisol. Gallwch naill ai llwytho un o’ch cyfrifiadur neu o yriant USB trwy glicio ar y botwm pori wrth y blwch ‘Attach Image’, neu gallwch gysylltu at wefan megis Flickr neu photobucket.
Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Submit.
Sut i ychwanegu Gwybodaeth Staff i Fodiwl
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 15:47
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn