Gall cyfarwyddwyr ddefnyddio’r cyfleuster Mewnforio Pecyn i gopïo deunydd cwrs o un cwrs i gwrs arall.
Er mwyn defnyddio’r swyddogaeth hon rhaid eich bod wedi allforio’r defnydd o gwrs sy’n bodoli.
O fewn eich modiwl, cliciwch ar y Panel Rheoli a dewiswch Packages and Utilities:
Cliciwch ar Import Package/View Logs o’r ddewislen ehangedig:
Nesaf, cliciwch ar y botwm Import Package:
Cliciwch ar Browse My Computer i ddewis eich pecyn:
Mae’r adran nesaf yn gofyn i chi ddewis pa rannau o’r pecyn cwrs yr ydych am eu mewnforio:
Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar y botwm Submit.
Mae’n bosib y bydd y broses hon yn cymryd ychydig o amser, yn dibynnu ar faint y ffeiliau a mewnforir. Bydd neges yn dynodi mewnforio llwyddiannus yn ymddangos ar frig y sgrin. Byddwch hefyd yn derbyn e-bost cadarnhad.
Mewnforio Pecyn Cwrs
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:20
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn