Gallwch ddefnyddio Cod Lliwiau Graddio i gymhwyso lliw cefndir a lliw testun i eitemau yn y Ganolfan Graddau sy’n cwrdd â’r meini prawf a fanylir.
Mae ychwanegu rheolau lliw i’r Ganolfan Graddau’n darparu dangosyddion gweladwy i’ch helpu dehongli gwybodaeth yn gyflym.
Agorwch y Ganolfan Graddau Llawn o adran Ganolfan Graddau’r Panel Rheoli:
Cliciwch ar yr arwydd disgyn wrth ymyl y botwm Manage, a dewiswch Grading Colour Codes:
Nid yw cod lliwiau ar gael drwy ragosodiad. I alluogi’r swyddogaeth hon, ticiwch y bocs Enable Grading Colour Codes:
Gellir diffinio lliwiau ar gyfer eitemau sydd ar waith, eitemau y mae angen graddio arnynt neu eitemau sydd wedi’u heithrio. Dewiswch liw cefndirol ar gyfer pob statws graddio drwy glicio ar y cwplws priodol a dewis lliw o’r bocs patrymau lliw:
Mae hefyd yn bosib gosod opsiynau lliw ar gyfer amrediadau gradd gwahanol trwy glicio ar y botwm Add Criteria yn yr adran Grade Ranges:
Mae ychwanegu meini prawf at amrediadau graddau’n ei wneud yn haws creu eich system eich hun o gydnabyddiaeth weledol. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio coch i amlygu graddau isel y mae angen sylw arnynt. Mae hefyd yn bosib newid lliw’r testun i’w wneud yn ddarllenadwy yn erbyn y cefndir yr ydych wedi’i ddewis.
Ar ôl i chi wneud eich newidiadau, cliciwch ar y botwm Submit.
Caiff eich cod lliwiau yna ei gymhwyso i’r Ganolfan Graddau.
Rhoi Cod Lliw i’r Ganolfan Graddau
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:26
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn