I ychwanegu wiki at eich safle cwrs, mae'n rhaid i chi fod yn yr ardal gynnwys berthnasol yr hoffech ychwanegu eich wiki ati.
Cliciwch ar Offer a dewiswch wiki Pecyn Campws o'r gwymplen.
Mae'r adran sy'n dilyn yn caniatáu i chi addasu'ch wiki. Rhowch deitl i'ch Wiki a disgrifiad bras ohono a nodi am beth y mae'n sôn.
Mae Adleoli yn caniatáu i chi ddewis sawl copi o'r wiki yr ydych ei eisiau, a dewis pwy sy'n cael eu gweld/golygu:
Mae Copi Unigol yn caniatáu i chi gael un copi y gall pawb sydd wedi cofrestru ar y modiwl hwnnw gyfrannu ato.
Os oes grwpiau gennych yn eich cwrs, yna gall Un i bob Grŵp fod yn ddefnyddiol. Dim ond myfyrwyr sydd wedi cofrestru yn y grŵp hwnnw (ac Addysgwyr) fydd yn gallu gweld y wiki hwnnw, a bydd y cyfleuster hwn yn creu blogiau'r un peth yn awtomatig ar gyfer pob grŵp.
Os hoffech i bob myfyriwr gael wiki personol, yna'r opsiwn Un i bob Person byddai fwyaf addas.
Gellir graddio wikis. Os hoffech raddio'ch Wikis yna bydd angen i chi dicio'r blwch Creu Cofnod Llyfr Gradd. Yna, gofynnir i chi roi enw addas i'ch cofnod llyfr gradd, a dyrannu'r nifer o bwyntiau sy'n bosibl. Os hoffech i'r graddau hyn fod yn weladwy i fyfyrwyr, ticiwch y blwch hwn:
Ar ôl i chi osod yr opsiynau, cliciwch ar Ychwanegu.
Ychwanegu Wiki NEWYDD at eich Safle Cwrs
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:49
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn