Fel "perchennog Podlediad" mae modd i chi reoli pwy sydd â mynediad at y dyddiadur a pha lefel o fynediad y gallant ei chael.
Ceir tair rôl wahanol wedi'u rhagosod:
· Darllenwyr (gall y rhain ddarllen ond ni allant gymryd rhan)
· Awduron (hefyd yn cael eu adnabod fel cyfranogwyr gall y rhain wneud cofnodion newydd a golygu cynnwys
· Perchnogion (mae gan y rhain reolaeth lawn dros y podlediad).
· Mae modd hefyd creu rôl bersonol. (Gweler y canllaw ar wahân ar gyfer creu rôl bersonol.)
I ychwanegu at y rhestr Darllenwyr:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn y podlediad perthnasol.
Cliciwch ar Gosodiadau a dewis Caniatâd.
Cliciwch ar y tab Darllenwyr.
Bydd y bobl sydd eisoes yn gallu cael mynediad at eich podlediad yn y blwch o'r enw Y Darllenwyr:
Ewch i'r blwch Ychwanegu Darllenwyr.
Dewiswch o blith pawb, unigolion arbennig neu gyrsiau neu sefydliadau penodol drwy glicio ar y pennawd perthnasol a defnyddio'r golofn nesaf i hidlo.
Pan fyddwch yn hapus gyda'ch dewis, cliciwch y botwm Ychwanegu.
I wahodd rhywun nad ydyw ar y rhestr, cliciwch ar y botwm Gwahodd rhywun drwy e-bost.
Mae opsiwn hefyd o roi mynediad i bobl am gyfnod cyfyngedig. Os hoffech wneud hyn, nodwch ddyddiad ac amser dechrau a gorffen fel sy'n berthnasol a chliciwch ar Cadw.
Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Cadw. Ewch allan.
I ychwanegu at y rhestr Awduron:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn y podlediad perthnasol.
Cliciwch ar Gosodiadau a dewis Caniatâd.
Cliciwch ar y tab Awduron
(Mae gweddill y delweddau sgrin yr un peth ag yn y cyfarwyddiadau i Ddarllenwyr.)
Bydd y bobl sydd eisoes yn gallu cael mynediad at eich podlediad yn y blwch o'r enw Yr Awduron.
Ewch i'r blwch Ychwanegu Awduron.
Dewiswch o blith pawb, unigolion arbennig neu gyrsiau neu sefydliadau penodol drwy glicio ar y pennawd perthnasol a defnyddio'r golofn nesaf i hidlo.
Pan fyddwch yn hapus gyda'ch dewis, cliciwch y botwm Ychwanegu.
I wahodd rhywun nad ydyw ar y rhestr, cliciwch ar y botwm Gwahodd rywun drwy e-bost.
Mae opsiwn hefyd o roi mynediad i bobl am gyfnod cyfyngedig. Os hoffech wneud hyn, nodwch ddyddiad ac amser dechrau a gorffen fel sy'n berthnasol a chliciwch ar Cadw.
Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Cadw. Ewch allan.
I ychwanegu at y rhestr Perchnogion:
(Mae gweddill y delweddau sgrin yr un peth ag yn y cyfarwyddiadau i Ddarllenwyr.)
Gwnewch yn siŵr eich bod yn y podlediad perthnasol.
Cliciwch ar Gosodiadau a dewis Caniatâd.
Cliciwch ar y tab Perchnogion.
Bydd y bobl sydd eisoes yn gallu cael mynediad at eich podlediad yn y blwch o'r enw Y Perchnogion.
Ewch i'r blwch Ychwanegu Perchennog.
Dewiswch o blith pawb, unigolion arbennig neu gyrsiau neu sefydliadau penodol drwy glicio ar y pennawd perthnasol a defnyddio'r golofn nesaf i hidlo.
Pan fyddwch yn hapus gyda'ch dewis, cliciwch y botwm Ychwanegu.
I wahodd rhywun nad ydyw ar y rhestr, cliciwch ar y botwm Gwahodd rhywun drwy e-bost.
Mae opsiwn hefyd o roi mynediad i bobl am gyfnod cyfyngedig. Os hoffech wneud hyn, nodwch ddyddiad ac amser dechrau a gorffen fel sy'n berthnasol a chliciwch ar Cadw.
Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Cadw. Ewch allan.
Gosod Hawliau Addas ar gyfer eich podlediad
- Diweddariad diwethaf:
- 25-10-2016 13:58
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn