Mae Blackboard yn defnyddio’r System Gynnwys i storio’r holl ffeiliau a lwythir mewn ardal o’r enw "ardal ffeiliau cwrs."; Mae hyn nawr yn ei wneud yn hawdd llwytho ffeiliau mewn crynswth ac i drefnu ffeiliau lluosog mewn cyrsiau. ; ;Sylwer: Unwaith i chi lwytho ffeil mae’n bosib gosod cymaint o gysylltiadau ag yr hoffech i’r un dogfennau.
Llywio i’r Ardal Ffeiliau Cwrs:
O fewn y panel rheoli, dewiswch yr opsiwn Content Collection:
Dewiswch yr ardal yr hoffech lwytho’r cynnwys iddi:
Os hoffech greu ffolder, cliciwch ar yr opsiwn Create Folder, rhowch enw i’r ffolder a chliciwch ar Submit.
Llwytho’r Ffeiliau:
Mae’n bosib llwytho ffeiliau unigol a ffeiliau lluosog. Mae’r opsiwn llwytho wedi’i ragosod i Ffeiliau Unigol. Os hoffech lwytho ffeiliau lluosog, dewiswch yr opsiwn Ffeiliau Lluosog sydd ychydig o dan y modd Golygu:
Cyhyd ag yr ydych wedi dewis yr opsiwn Ffeiliau Lluosog (cliciwch ar yr opsiwn hwn os nad ydych, dylai Blackboard gofio eich dewis) dylai blwch agor lle gallwch lusgo a gollwng ffeiliau unigol neu luosog i mewn i’ch ffolder - os nad ydych yn gweld y blwch hwn neu os ydyw’n well gyda chi bori am ffeiliau, cliciwch ar y botwm pori yn lle. Gallwch yna ddewis ffeiliau lluosog yn y modd arferol.
CYFLWYNO’R FFEILIAU
Dylai bod rhestr o ffeiliau’n ymddangos yn y blwch. Cliciwch ar Submit i’w llwytho
FFEILIAU WEDI’U LLWYTHO
Byddwch yn gweld barau cynnydd wrth i’r ffeiliau lwytho a gobeithio byddwch hefyd yn gweld bar llwyddiant gwyrdd - dyna ddiwedd y broses lwytho
I OSOD FFEILIAU UNIGOL NEU LUOSOG O’R ARDAL FFEILIAU CWRS
Rhaid i chi ddefnyddio’r dewis EITEM o’r ddewislen Build Content mewn unrhyw faes cynnwys yn eich cwrs (os ydych yn defnyddio’r opsiwn "File" ni fyddwch yn gallu dewis ffeiliau lluosog. Llenwch y teitl ac unrhyw nodiadau ar y ffurflen yna ewch i Adran 2 ar y ffurflen a chliciwch ar y botwm Browse Content Collection
LLUSGWCH NEU PORWCH Y FFEILIAU I’W DEWIS
Bydd hyn yn mynd â chi at yr ardal ffeiliau cwrs lle gallwch bori am y ffeiliau sydd eu hangen arnoch ac yna rhoi tic yn erbyn pob ffeil yr hoffech ei lwytho (mae’n helpu os yw’ch ffeiliau wedi’u henwi mewn modd a fydd yn helpu myfyrwyr) - yna cliciwch ar Submit
Cewch yna eich cludo yn ôl at y ffurflen ADD ITEM lle gallwch ychwanegu rhagor o ffeiliau ac ychwanegu unrhyw osodiadau eraill megis llwybro ayyb cyn clicio ar Submit i anfon yr eitem at eich cwrs
BETH MAE’R MYFYRIWR YN EI WELD
Bydd y myfyriwr yn gweld cyfres o ddolenni cyswllt i’r ffeiliau ynghyd ag unrhyw ddisgrifiad y gwnaethoch eu hychwanegu at y ffurflen
NB; Ceir opsiynau eraill megis creu ffolder we ar eich bwrdd gwaith fel bod modd i chi lusgo ffeiliau’n uniongyrchol i mewn i ffolder cwrs heb agor Blackboard hyd yn oed. Hefyd os ydych yn clicio ar y cyplysau i Lawr ar y ddolen gyswllt Content Collection yn y panel rheoli byddwch yn gallu dod o hyd i opsiynau eraill gan gynnwys y gallu i rannu cynnwys o gwrs arall yr ydych yn ei gyfarwyddo heb orfod llwytho’r dogfennau eto