Gallwch helpu myfyrwyr gael mynediad at yr hyn sydd eu hangen arnynt drwy ychwanegu dolenni cyswllt at offerynnau a ddefnyddir yn fynych mewn rhannau eraill o’ch cwrs. Er enghraifft, ychwanegu cysylltiadau at My Grades ac Email i Ddewislen y Cwrs. Neu mewn ardaloedd cynnwys, gosod dolenni cyswllt yn agos at gynnwys cyfarwyddiadol.
Creu cyswllt ar Ddewislen y Cwrs
I ddechau, ewch i Ddewislen y Cwrs a chliciwch ar arwydd adio yn y ddewislen gyfarwyddiadol:
Dewiswch Tool Link o’r gwymplen:
Ar gyfer y cyswllt newydd, rhowch enw byr iddo, dewiswch y math o offeryn a thiciwch y blwch wrth ymyl Available to Users:
Ar ôl i chi wneud hyn, cliciwch ar y botwm cyflwyno.
Dylai’r cyswllt newydd ymddangos ar waelod dewislen y cwrs. Os hoffech ei symud ymhellach i fyny’r ddewislen, cliciwch ar ochr chwith yr eitem ddewislen a llusgwch hi i fyny neu i lawr hyd nes ei bod yn y lle cywir:
Creu cyswllt at offeryn mewn Ardal Gynnwys
Gwnewch yn siŵr eich bod yn yr ardal gynnwys berthnasol, a dewiswch Tools:
Dewiswch Tools Area o’r gwymplen. Bydd y cyswllt hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad ar yr HOLL offerynnau sydd ar gael:
Rhowch enw perthnasol i gyswllt yr offeryn a rhowch yr opsiynau angenrheidiol i mewn megis argaeledd a chyfyngiadau dyddiad/amser:
Ar ôl i chi orffen cliciwch ar y botwm Submit.
Creu Cysylltiadau Offerynnau
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:19
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn