I ychwanegu dyddiadur at eich safle cwrs, mae'n rhaid i chi fod yn yr ardal gynnwys berthnasol yr hoffech ychwanegu eich dyddiadur ati.
Cliciwch ar Offer a dewiswch Dyddiadur Pecyn Campws o'r gwymplen.
Mae'r adran sy'n dilyn yn caniatáu i chi addasu'ch dyddiadur. Rhowch deitl i'ch dyddiadur a disgrifiad bras ohono a nodi am beth y mae'n sôn.
Gellir graddio dyddiaduron. Os hoffech raddio'ch dyddiadur, yna bydd angen i chi dicio'r blwch Creu Cofnod Llyfr Gradd. Yna, gofynnir i chi roi enw addas i'ch cofnod llyfr gradd, a dyrannu'r nifer o bwyntiau sy'n bosibl. Os hoffech i'r graddau hyn fod yn weladwy i fyfyrwyr, ticiwch y blwch hwn:
Ar ôl i chi osod yr opsiynau, cliciwch ar Ychwanegu:
Ychwanegu Dyddiadur NEWYDD at eich Safle Cwrs
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:42
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn