Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Blog


Mae teclyn yn gymhwysiad bach sy'n gallu eistedd yn eich blog. Bydd pob teclyn yn caniatáu i'r defnyddiwr edrych ar wybodaeth ychwanegol neu wthio gwybodaeth o'r blog i lefydd gwahanol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn y blog perthnasol.
Cliciwch ar Gosodiadau ac yna Teclynnau.

Yna, cyflwynir dau dab i chi - un ar gyfer teclynnau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd a'r llall yn dangos y teclynnau sydd ar gael.

Rheoli Teclynnau
I newid y gosodiadau ar declyn, neu i dynnu'r teclyn o'ch blog yn gyfan gwbl, cliciwch ar y tab Mewn Defnydd.

Cliciwch ar y teclyn yr ydych am ei olygu. Bydd unrhyw opsiynau sydd ar gael yn ymddangos ar ochr dde'r dudalen. (Mae'r rhain yn amrywio o declyn i declyn.)

Gwnewch unrhyw newidiadau sydd eu hangen a chliciwch ar Cadw. Ar ôl i chi orffen eich newidiadau i gyd, cliciwch ar Gorffen.

Dileu Teclynnau
Cliciwch ar y tab Mewn Defnydd.

Cliciwch ar y teclyn yr hoffech ei ddileu. Bydd yr opsiynau'n ymddangos ar yr ochr dde.
Cliciwch ar y ddolen Dileu yng nghornel uchaf y dudalen ar y dde.

Bydd blwch cadarnhau'n ymddangos. Cliciwch ar Dileu.

Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Gorffen.
Ychwanegu Teclynnau at eich Blog
Mae sawl teclyn ar gal ei chi eu hychwanegu at eich blog:

Cliciwch ar y tab Ar Gael.

Ewch at y teclyn yr hoffech iddo ymddangos ar eich blog. Mae pob teclyn yn cynnwys disgrifiad bras.
Cliciwch ar y botwm Ychwanegu perthnasol.

Ar ôl i chi orffen ychwanegu widgets, sgroliwch i lawr i waelod y rhestr a chliciwch ar Gorffen.

Diweddariad diwethaf:
24-10-2016 17:52
Awdur: :
Helen
Adolygu:
1.1
Cyfradd gyfartalog:0 (0 Votes)
 

Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn

Chuck Norris has counted to infinity. Twice.

Records in this category

10 UCHAF RSS

  1. Beth ydw i’n ei wneud pan fo rhybudd cynnwys ... (839412 views)
  2. Ni allaf fewngofnodi i'm cyfrif ar y fewnrwyd/Blackboard. A ... (671521 views)
  3. Sut i ofyn am fynediad i safle modiwl neu ... (98662 views)
  4. Asesu eich Wiki (85350 views)
  5. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Podlediad (28261 views)
  6. Asesu eich Blog (23911 views)
  7. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Wiki (22295 views)
  8. Asesu eich Dyddiadur (13230 views)
  9. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Dyddiadur (10294 views)
  10. Allforio eich Wiki (6574 views)

Tags