Mae'n bosibl ychwanegu atodiadau at eich blog gan ddefnyddio'r Golygydd WYSIWYG.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn y blog perthnasol.
Cliciwch ar Ychwanegu Cofnod Newydd a rhowch deitl i'r blogiad.
Ardal y golygydd WYSIWYG wedi'i hamlinellu mewn coch yw'r ardal berthnasol.
Y rhain yw (o'r chwith):
Ychwanegu/Golygu dolen - Mae hyn yn caniatáu i chi greu dolen i ddogfen neu dudalen we, a hefyd i newid y ddolen ar ôl ei chreu.
Mewnosod/Golygu delwedd - Mae hyn yn caniatáu i chi fewnosod ffeil ddelwedd naill ai o'ch Cyfrifiadur Personol neu o wefan megis Flickr.
Mewnosod/Golygu fideo - Mae hyn yn caniatáu i chi atodi neu fewnosod ffeiliau fflach neu fideo yn eich blog.
Llwytho ffeil - Mae hyn yn caniatáu i chi bori'ch cyfrifiadur a llwytho ffeil unigol fel atodiad.
Ychwanegu angor - Mae hyn yn caniatáu i chi greu cyswllt o fewn tudalen (Os oes tudalen hir gennych, mae'n golygu nad oes rhaid i chi sgrolio).
O dan y golygydd testun, cewch roi rhywfaint o destun i fynd gyda'ch atodiad fel arall, cewch atodi'r ffeiliau gan ddefnyddio'r eiconau a esboniwyd yn y ddelwedd uchod.
Ar ôl i chi ychwanegu eich atodiadau ac ysgrifennu eich blogiad, cliciwch ar Cadw.
Ychwanegu Ffeil at eich Blogiad
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 18:01
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn