Mae'r opsiwn hwn yn dileu defnyddwyr (naill ai pob un, neu'r rheini â rolau arbennig) a'u cynnwys cyfatebol o'ch dyddiadur.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn y dyddiadur perthnasol.
Cliciwch ar Gosodiadau a dewis Ailgylchu.
Mae'r sgrin sy'n dilyn yn rhoi gwybodaeth am yr hyn sy'n cael ei ddileu:
I ddileu'r holl gynnwys, ticiwch y blwch Cynnwys i Gyd.
I ddileu cynnwys gan ddefnyddwyr unigol, ticiwch y blwch Dileu Cynnwys gan Ddefnyddiwr, a dewis y defnyddiwr neu ddefnyddwyr perthnasol.
I ddileu cynnwys gan ddefnyddwyr sy'n gysylltiedig â rôl benodol (megis addysgydd neu fyfyriwr), ticiwch yr opsiwn Dileu Cynnwys Fesul Rôl.
Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Ailgylchu.
Ailgylchu eich Dyddiadur
- Diweddariad diwethaf:
- 25-10-2016 12:20
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn