Gobeithio, os ydych wedi creu aseiniad ac wedi dangos i’ch myfyrwyr sut i’w ddefnyddio, byddwch yn cyrraedd pwynt lle y mae angen i chi edrych ar yr aseiniadau a gyflwynwyd a'r adroddiadau llên-ladrad.; Mae’r cyfarwyddiadau hyn wedi’u dylunio i’ch helpu i ddod o hyd i adroddiadau a’u darllen yn hytrach na sut i’w dehongli neu sut i weithredu arnynt.; Dylid cofio bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn ddangosydd yn unig i helpu adnabod llên-ladrad neu gopïo posib, ac nid yw’n golygu mai tystiolaeth ydyw.
Ceir manylion ynghylch sut i weld/rheoli aseiniadau Turnitin ar y dudalen hon – efallai bydd diddordeb hefyd gennych edrych ar gwestiynau cyffredin eraill perthynol
Sut y mae myfyriwr yn cyflwyno papur i Turnitin?
Sut ydw i’n Creu Aseiniad Turnitin?
Edrych ar Aseiniad Turnitin UK Mewn Bocs
I WELD ac i REOLI aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno rydych yn mynd i mewn i Turnitin UK trwy ddull gwahanol i’r un yr ydych yn ei ddefnyddio i’w creu neu eu haddasu. Rhaid i chi fynd i’r panel rheoli modiwlau, sydd bellach wedi’i leoli o dan ddewislen y cwrs, a chlicio ar "course tools" i ehangu’r rhan honno o’r ddewislen - oddi yno gallwch ddewis Turnitin UK Assignments (os ydy’ch cwrs wedi’i drefnu i mewn i grwpiau gallwch hefyd edrych ar aseiniadau fesul grwpiau)
Bydd hyn yn dod â rhestr o gysylltiadau at yr aseiniadau sydd ar gael yn y modiwl - cliciwch ar yr un yr ydych am ei weld
;
Bydd y sgrin nesaf yn dangos rhestr o’r holl fyfyrwyr ar y modiwl a’r aseiniadau y maen nhw wedi’u cyflwyno - defnyddiwch yr allwedd o dan y ddelwedd i gael gwybod mwy am yr hyn y gallech ei wneud ar y dudalen hon
(1) Dyma’r dangosiad mewn bocs. Gallwch ddefnyddio’r ddewislen hon i fynd i’r sgrin golygu, i gynhyrchu adroddiad ystadegau ac i osod dewisiadau megis faint o gofnodion yr ydych yn ei weld ar unwaith. Mae’r tab llyfrgelloedd i’w ddefnyddio lle rydych wedi creu setiau cyfeireb - Nid yw hwn yn cael ei ddefnyddio’n aml o gwbl.
(2) Trwy dicio’r blychau wrth ochr yr enwau unigol gallwch berfformio’r gweithredoedd Dileu, Lawrlwytho a symud ymlaen i nifer o eitemau ar unwaith. Mae Lawrlwytho’n ddefnyddiol gan ei fod yn rhoi’r holl aseiniadau a ddewisir mewn ffeil sip, pob un wedi’i enwi’n glir. Cewch yr opsiwn hefyd i’w lawrlwytho yn eu fformat gwreiddiol neu fel PDF - mae hyn yn ddefnyddiol os yw’r myfyriwr wedi defnyddio ffeil nad ydych yn gallu ei agor. Bydd ticio’r blwch wrth ochr y pennawd yn dewis neu’n dad-ddewis y cyfan.
(3) mae’r golofn hon yn rhestru’r myfyrwyr; mae’r enw’n hypergyswllt sy’n mynd â chi at gofnod unigol yn rhestru’r holl aseiniadau yn y modiwl ar gyfer y myfyriwr hwnnw
(4) mae’r rhestr yn cynnwys y teitlau y mae’r myfyrwyr wedi’u nodi ar gyfer eu cyflwyniad neu os nad ydynt wedi cyflwyno
(5) mae hyn yn dangos y ganran wirioneddol a’r cod lliwiau; - dyma’r cyswllt hefyd i weld yr adroddiad unigol
Bydd y colofnau nesaf bob amser yn wag achos dydyn ni ddim yn defnyddio’r system Turnitin Grademark
(6) Mae hwn yn gyswllt i lawrlwytho’r ddogfen wreiddiol (er gallwch hefyd ddefnyddio’r dull ticio ym mhwynt 1 i lawrlwytho sawl un neu bob un ohonynt)
(7) Yn syml dyma Rif Adnabod mewnol y papur Turnitin
(8) Dyma’r dyddiad cyflwyno - mae papurau a gyflwynwyd yn hwyr wedi’u rhestru’n goch a lle nad oes papur wedi’i gyflwyno erbyn y dyddiad cau bydd y gair "Late" wedi’i arddangos yn goch
SYLWER, mae’r rhan fwyaf o deitlau’r colofnau yn ddolenni cyswllt y gallech eu defnyddio i aildrefnu’r rhestr yn ôl y golofn honno.
(9) Mae’r botwm cyflwyno yn caniatáu i gyfarwyddwr gyflwyno aseiniad ar ran myfyriwr sydd wedi’i ymrestru NEU ar gyfer myfyriwr nad ydyw yn rhestr y dosbarth
(10) Os ydych yn canfod ar unrhyw adeg nad yw’r rhestr o fyfyrwyr sydd yma'r un peth â’r garfan bresennol o fyfyrwyr cliciwch ar ‘roster sync’ a fydd yn sicrhau bod y rhestr yr un peth yn union â’r ymrestriadau presennol. Mae hyn yn ddefnyddiol pan rydych yn defnyddio aseiniad wedi’i gario drosodd o flwyddyn flaenorol. (NB rydym yn argymell yn gryf eich bod yn creu aseiniadau newydd ar gyfer pob blwyddyn)
Fel y nodwyd eisoes, gallwch weld adroddiad drwy glicio ar y cyswllt yn eitem 5 uchod; - bydd hyn yn agor adroddiad gwreiddioldeb fel yr enghraifft hon - eto rydym wedi rhifo’r nodweddion allweddol ar y sgrinlun ac wedi cynnwys y manylion isod
(1) Mae hyn yn rhoi gwybodaeth gyffredinol i chi ynglŷn â’r papur - ar hyn o bryd nid yw’n bosib cael adroddiadau Turnitin dienw
(2) Gallwch glicio yma i eithrio gwaith a ddyfynnwyd ond mae hyn dim ond yn gweithio os yw’r darn wedi’i gynnwys mewn dyfynodau dwbl
(3) Gallwch eithrio llyfryddiaethau er bod hyn yn gallu bod yn hap a damwain yn dibynnu ar sut y mae’r ddogfen wedi’i fformatio
(4) Mae hyn yn caniatáu i chi ddewis sut y mae’r pethau tebyg yn yr ail golofn (6) wedi’u grwpiau
(5) Mae’r golofn hon yn dangos yr aseiniad gyda’r testun a ganfyddir wedi’i amlygu - i’r dde ceir rhif sy’n cyfeirio at y golofn ffynhonnell (6) Bydd clicio ar y testun lliw’n newid yr olygfa yng ngholofn (6) i ddangos y dyfyniad yn ei gyd-destun, neu gallwch glicio ar y cyswllt yng ngholofn (6) i fynd at y ffynhonnell lawn (e.e. tudalen we)
(6) Fel sydd newydd wedi’i nodi, dyma’r golofn sy’n dangos y ffynonellau - lle bo’r ffynhonnell yn bapur sydd eisoes wedi’i storio yn Turnitin bydd gennych gyswllt i e-bostio’r tiwtor dan sylw i weld os ydynt yn fodlon rhoi copi i chi - bydd hefyd yn dangos cyd-dwyllo rhwng aelodau o’r dosbarth. I’r dde o bob eitem ceir blwch bach llwyd â chroes arno sy’n caniatáu i chi eithrio dolenni cyswllt lle bo’n berthnasol - dylai’r sgrin adnewyddu gan adlewyrchu’r newid. Gallwch weld yr eitemau sydd wedi’u heithrio o hyd trwy ddewis ‘view all individual items’ gan ddefnyddio’r dewiswr (4)
(7) botymau i argraffu, adnewyddu a chadw’r adroddiad
;
Rydym yn argymell eich bod yn treulio amser yn ymgyfarwyddo eich hun gyda’r offer - Mae rhai aelodau staff yn defnyddio’r botwm cyflwyno yn y blwch i lwytho enghreifftiau o’r nodiadau a’r deunydd yr ydych yn eu dosbarthu. Bydd hyn yn rhoi’r gallu i chi ymarfer gyda'r adroddiadau, er mwyn rhoi syniad gwell i chi o sut y mae’r rhyngwyneb yn gweithio ac wrth gwrs i’ch helpu i adnabod o ble y mae myfyrwyr yn copïo o’ch nodiadau!
Efallai y byddwch am edrych ar Erthyglau perthynol eraill nawr
Sut y mae myfyriwr yn cyflwyno papur i Turnitin?
Sut ydw i’n Creu Aseiniad Turnitin?
Sut ydw i’n rheoli/edrych ar Aseiniadau Turnitin y mae fy myfyrwyr eisoes wedi’u cyflwyno?
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 11:59
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.2
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn