Cyfarwyddwr modiwl sy’n penderfynu pa offerynnau sydd ar gael o fewn y modiwl. Mae’n bosib na fydd mynediad gennych i’r un offerynnau ar gyfer eich modiwlau i gyd.
Mae offerynnau cyfathrebu megis Bwrdd Trafod ac Anfon E-bost fel arfer ar gael o’r opsiwn Course Tools yn y Panel Rheoli.
Yn yr un modd, mae offerynnau megis Calendr, Graddau Personol, Gwybodaeth Bersonol, fel arfer ar gael naill ai o ddewislen y modiwl, neu’r bocs offerynnau.
Bydd offerynnau cyflwyno aseiniadau’n amrywio rhwng modiwlau. Os nad ydych yn siŵr pa offeryn i’w ddefnyddio, gwiriwch gyda’ch cyfarwyddwr.
Os ydych yn profi problemau gydag unrhyw un o’r cyfleusterau neu offerynnau sydd ar gael i chi, cysylltwch â ni gyda manylion eich problem.
Rydw i’n cael problemau wrth ddefnyddio cyfleuster/offeryn
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 12:50
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn