Mae’n bosib gosod yr iaith a ddefnyddir i lywio Blackboard. Mae nifer o ieithoedd wedi’u cefnogi y gall y defnyddiwr ddewis o’u plith.
Rhaid i chi newid yr iaith sydd wedi’i rhagosod o brif Dudalen Groeso Blackboard – felly os ydych wedi’ch mewngofnodi bydd angen i chi allgofnodi’n gyntaf cyn dewis iaith. Gallwch ddod o hyd i flwch dewis iaith ar y Dudalen Groeso sy’n edrych fel hyn
Dewiswch eich iaith a gwasgwch Go.
Dylech yna weld y dudalen groeso eto ond gyda’r prif reolyddion yn eich iaith ddewisol. Mae ambell i beth y dylech wybod amdanynt cyn newid yr iaith
- I newid yn ôl (neu i newid i iaith arall) dylech ailadrodd y broses ond gan ddefnyddio eich dewis newydd yn y cam uchod – Ar gyfer Saesneg mae’n rhaid i chi ddewis English UK
- Mae pecynnau iaith dim ond yn cyfieithu’r offerynnau llywio safonol sydd wedi’u rhagosod – nid ydynt yn cyfieithu unrhyw gynnwys neu unrhyw offerynnau llywio lle y mae’r geiriad wedi’i olygu o’r derminoleg Blackboard safonol.