Ar gyfer pob prawf, cewch ddewis graddio'r holl atebion i gwestiwn penodol. Mae hyn yn caniatáu i chi symud o brawf i brawf, gan weld a sgorio'r un cwestiwn ar gyfer pob myfyriwr. Gall y dull yma o fewnbynnu'r graddau arbed amser gan eich bod yn canolbwyntio ar yr atebion i un cwestiwn yn unig. Cewch weld sut ymatebodd yr holl fyfyrwyr gan roi adborth sydyn am berfformiad y garfan ar y cwestiwn penodol hwnnw. Hefyd, gall graddio fesul cwestiwn fod o ddefnydd pan fyddwch am ailymweld â chwestiwn lle bo angen addasu'r sgôr am y cyfan o'r myfyrwyr neu am lawer ohonynt.
Ar yr un pryd, gellir graddio cwestiynau'n ddienw. Bydd pob ymgais ar y prawf yn cadw'r statws 'angen graddio' tan ar ôl i'r holl atebion i'r prawf gael eu graddio.
1. Yn y Ganolfan Graddau, cliciwch ar Dolen Weithredu pennawd y golofn i gyrchu'r fwydlen gyd-destunol a dewis Graddio Cwestiynau.
-NEU-
Ar y dudalen Angen Graddio, cliciwch ar Dolen Weithredu y prawf i gyrchu'r fwydlen gyd-destunol a dewis Graddio Fesul Cwestiwn.
2. Ar y dudalen Graddio Cwestiynau, cewch hidlo'r cwestiynau ar sail eu statws: Wedi'i Raddio, Angen ei Raddio, neu Ar y Gweill. Os oes angen, cewch dicio'r bocs Graddio Atebion yn Ddienw.
3. Ar gyfer pob cwestiwn, cliciwch y rhif yn y golofn Atebion.
4. Ar y dudalen Graddio Atebion, mwyhewch y ddolen Gwybodaeth Cwestiwn i weld y cwestiwn. Os na ddewiswyd graddio dienw eisoes, cliciwch Cuddio Enwau Defnyddwyr ar y Bar Gweithredu. Cliciwch 'Iawn' yn y ffenest naid i gadarnhau.
5. Cliciwch Golygu wrth ochr sgôr defnyddiwr.
6. Rhowch sgôr yn y blwch Sgorio. Yn ôl eich dewis, cewch ychwanegu Adborth ar yr Ateb sy'n benodol i'r cwestiwn penodol. Ni fydd y blwch Adborth ar yr Ateb yn ymddangos ond am rai mathau o gwestiwn, megis traethawd. Defnyddiwch ddewisiadau'r Golygydd Testun i fformatio'r testun ac i ychwanegu ffeiliau, delweddau, dolenni, deunydd aml-gyfryngol, a Stwnshiau. Cliciwch Cyflwyno.
7. Yn ôl eich dewis, os bydd cyfeireb wedi'i chysylltu â Chwestiynau Traethawd, Cwestiynau Ateb Byr, neu Gwestiynau Ffeilio Ymateb, cewch glicio ar Gweld y Gyfeireb i raddio'r cwestiwn gan ddefnyddio'r gyfeireb. Am ragor o wybodaeth, ewch i Cyfeirebau.
8. Cliciwch Yn Ôl i'r Cwestiynau i ddychwelyd i'r dudalen Graddio Cwestiynau ar ôl graddio holl atebion y myfyrwyr.
Graddio Fesul Cwestiwn
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:35
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn