Mae'n bosibl graddio'r blogiau, ac i'r canlyniadau ymddangos yn y Ganolfan Graddau. Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut i alluogi'ch blog i gael ei asesu yn y canllaw "Creu Blog Newydd".
Gwnewch yn siŵr eich bod yn y blog perthnasol.
Cliciwch ar y botwm Gosodiadau a dewis Asesiadau.
Bydd y sgrin sy'n ymddangos yn rhoi crynodeb bras i chi o'r blogiadau, barnau a sylwadau.
Ceir rhestr ychydig yn fanylach oddi tano, yn dangos cyfranogwyr unigol a dadansoddiad o'u blogiadau.
*Sylwer* - dim ond y rheini sydd wedi agor y blog fydd yn ymddangos yn y rhestr hon:
I raddio cyfranogiad, cliciwch ar y botwm Canolfan Graddau. Bydd hyn yn mynd â chi at y ganolfan graddau lawn. (Bydd hyn yn agor mewn ffenestr newydd.)
Sgroliwch i'r golofn berthnasol, gan glicio ym mhob cell i nodi'r graddau perthnasol.
Ar ôl i chi nodi'r graddau, gallwch glicio ar yr arwyddion a dewis yr opsiwn Sylwadau Cyflym.
Mae'r Ganolfan Graddau'n cadw'r wybodaeth yn syth ar ôl i chi glicio y tu allan i bob cell, felly unwaith i chi orffen, caewch y ffenestr bori.
Asesu eich Blog
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:58
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn