Er bod tair gwahanol lefel o fynediad wedi'u rhagosod, mae'n bosibl addasu mynediad i gynnwys cyfuniad o'r rolau hyn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn y blog perthnasol.
Cliciwch ar y botwm Gosodiadau a dewis Caniatâd.
Cliciwch ar y ddolen Creu Rôl Bersonol.
Bydd hyn yn agor y sgrin ganlynol:
Ticiwch yr hawliau perthnasol o unrhyw un neu bob un o'r rolau sydd wedi'u rhagosod.
Bydd y bobl sydd eisoes yn gallu cael mynediad at eich blog yn y blwch pobl a Grwpiau.
I ychwanegu eraill: Ewch i'r adran Creu Rôl Bersonol.
Dewiswch o blith pawb, pobl, cyrsiau, sefydliadau, Fy Nghyrsiau neu Fy Sefydliadau drwy glicio ar y teitlau perthnasol a defnyddio'r golofn nesaf i hidlo.
Bydd yr un a ddewisir gennych yn ymddangos yn yr Adran Pobl a Grwpiau.
I wahodd rhywun nad ydyw ar y rhestr, cliciwch ar y botwm Gwahodd rywun drwy e-bost
Mae dewis hefyd o roi mynediad cyfyngedig i bobl am gyfnod penodedig. I wneud hyn, ychwanegwch ddyddiad ac amser dechrau a gorffen fel y bo'n briodol.
Ar ôl i chi ychwanegu'r bobl berthnasol, cliciwch Cadw. Ewch allan ar ôl gorffen.
Creu Rôl Bersonol i gael Mynediad at eich Blog
- Diweddariad diwethaf:
- 25-10-2016 10:25
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn